Clare Budden
By creo
Rwyf yn Gadeirydd 2025 (mudiad a sefydlwyd i roi diwedd ar anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi yng Ngogledd Cymru); ac rwyf yn aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru. Rwyf yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru.
Rwyf yn angerddol dros drechu tlodi ac anghydraddoldeb, ac mae’n fy ngwylltio bod y man lle rydych yn byw, neu lle cawsoch eich geni, yn dal i gael effaith fawr ar ganlyniadau bywyd.
Rwyf yn falch o fod yn Gymraes. Rwyf yn fam i bedwar o blant ac yn byw yn y gymuned lle cefais fy magu. Rwyf yn teimlo’n ffodus fy mod yn gallu byw’r bywyd rwyf yn ei ddewis, ac rwyf am wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau y gall pobl eraill wneud hynny hefyd.