Mae’r datblygwr sy’n adeiladu Glasdir, ar ran ClwydAlyn, unwaith eto wedi dangos ei ymrwymiad i’r gymuned trwy roi pyst gôl newydd sbon i’r ysgolion cyfagos i’r datblygiad, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos. Bwriad y cynllun yw cefnogi addysg a gweithgareddau hamdden yn lleol.
Rhoddodd ClwydAlyn gontract i’r datblygwr, Williams Homes (Bala) Ltd, i adeiladu’r datblygiad tai 63 plot, carbon isel, fforddiadwy yn Glasdir, Rhuthun mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ac fel rhan o gyllid Prosiect Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Mynegodd Penelope Storr, Pennaeth Datblygu a Thwf yn ClwydAlyn frwdfrydedd am y cynllun gan ddweud, “Nid yn unig mae ClwydAlyn wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi effeithlon o ran ynni a fforddiadwy, a chefnogi’r economi leol, rydym yn sicrhau bod ein holl bartneriaid yn ymrwymo i roi yn ôl i gymunedau lleol yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithio. Rydym yn falch iawn y bydd y rhodd yma gan Williams Homes yn cyfrannu at greu a gwella’r amgylchedd chwaraeon i’r disgyblion ac yn annog gweithgareddau corfforol, gwaith tîm a dysgu chwarae.”
Dywedodd Owain Williams, Cyd-reolwr Gyfarwyddwr Williams Homes: “Rydym yn falch iawn o allu rhoi’r goliau yma i’w defnyddio gan y ddwy ysgol leol, sydd wedi bod yn wych ac mor gefnogol trwy gydol y prosiect hwn. Rydym yn gobeithio y bydd y disgyblion yn mwynhau eu defnyddio am flynyddoedd lawer”.
Mae Glasdir, datblygiad preswyl arloesol yn mynd i ailddiffinio byw cynaliadwy trwy gyflwyno 63 o gartrefi effeithlon o ran ynni.
Ystyrir Glasdir yn un o’r datblygiadau mwyaf arloesol a rhyfeddol ac mae’n cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau, tai pâr a thai unigol yn ogystal â byngalos wedi eu haddasu. Adeiladir yr holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl.