Heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn dathlu’r menywod arbennig a’r lleisiau ysbrydoledig sy’n ymroi i wneud newid cadarnhaol. Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant. Dros y blynyddoedd mae ClwydAlyn wedi cymryd camau breision i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle a’r gymuned.
Er mwyn nodi’r diwrnod arbennig, mae hi wedi bod yn fraint cael sgwrsio â thair menyw arbennig sy’n gweithio i’n cwmni. Maen nhw’n trafod yr elfennau sy’n hanfodol i feithrin diwylliant o gynhwysiant ac amrywiaeth yn ClwydAlyn. Mae’r sgyrsiau hyn yn dangos ymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo amgylchedd gwaith a chymuned lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac yn cael cymorth i ffynnu.
Yn ôl Suzanne Mazzone, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Tai: “Mae materion yn ymwneud â rhywedd yn y gweithle yn dal i fodoli, ond yn ystod y 37 mlynedd rwyf wedi bod yn gweithio, rwy’n teimlo bod newid mawr wedi bod o ran cydraddoldeb a chyfle. Dydyn ni ddim wedi cyrraedd pen draw’r daith eto, felly fy nghyngor i bawb sy’n dechrau ar eu gyrfa heddiw neu sy’n penderfynu dilyn llwybr gyrfa newydd yw ewch amdani, gallwch gyflawni unrhyw beth rydych chi’n dymuno ei wneud a bydd digon o fenywod ysbrydoledig yn eich bywyd i’ch helpu i gyrraedd eich nod.”
Gan gyfeirio at ymrwymiad y cwmni i gefnogi menywod, dywedodd Holly Reece, ein Harbenigwr Cynhwysiant: “Mae ClwydAlyn wedi cyflawni llawer iawn fel sefydliad i gefnogi menywod yn y gwaith, datblygu diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd, sef gobaith, ymddiriedaeth a charedigrwydd, darparu cyfleoedd gwaith hyblyg, rhwydweithiau staff, llwybrau gyrfaoedd a buddsoddi yn natblygiad proffesiynol ein staff. Mae’n rhaid i ni barhau i adlewyrchu’r amgylchedd lle rydym yn gweithio, ac mae’n rhaid i ni weithio’n gyda’n gilydd i ddileu tuedd ar sail rhywedd a pharhau i greu amgylchedd lle gall menywod ar bob lefel deimlo bod pobl yn gwrando arnynt, yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu.”
Mae Annie Jackson, ein Harbenigwr Cymuned ac Ymgysylltu yn rhannu’r farn hon, a dywedodd: “Mae angen i ni ddal ati i siarad a rhannu straeon y menywod anhygoel sy’n gweithio gyda ni yn ClwydAlyn. Nid pobl sy’n ymddangos ar y teledu neu’r cyfryngau cymdeithasol yn unig yw modelau rôl – rydyn ni’n gweithio gyda nhw, rydyn ni’n byw gyda nhw, ac rydyn ninnau hefyd yn fodelau rôl! Mae angen i ni ddal ati i herio stereoteipiau ar sail rhywedd a bod yn barod i addasu ar gyfer gweithlu Cenhedlaeth Z fel y gallwn ni gyrraedd y menywod ifanc hyn yn y ffordd gywir a dechrau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”