Mewn ymgais i ymdrin ag unrhyw arwyddion cynnar o damprwydd a llwydni mewn cartrefi, mae’r Gymdeithas Dai o Ogledd Cymru, ClwydAlyn wedi cychwyn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o beth i chwilio amdano ac i annog preswylwyr i roi adroddiad am unrhyw broblemau yn syth.
Gall bod ynghanol tamprwydd a llwydni greu risg i iechyd preswylwyr, ac mae’n bwysig ymdrin ag unrhyw broblemau yn rhagweithiol, yn neilltuol wrth i’r tywydd oeri. Fel rhan o’r ymgyrch, mae ClwydAlyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd dod o hyd iddo’n gynnar a rhoi adroddiad ond mae hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd i breswylwyr ar y camau syml y gall pawb eu cymryd i leihau’r risg y bydd llwydni’n ffurfio yn eu cartrefi.
Dywedodd Prif Weithredwr ClwydAlyn, Clare Budden: “Rydym yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a llesiant ein preswylwyr ac rydym wedi trefnu i breswylwyr allu rhoi adroddiad am achosion o damprwydd a llwydni a chael ymateb prydlon. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon y codi ymwybyddiaeth ond hefyd yn annog preswylwyr i fod yn ofalus a rhoi adroddiad am broblemau tamprwydd a llwydni yn brydlon. Rydym hefyd yn rhannu awgrymiadau defnyddiol y gallwn ni i gyd eu defnyddio i gynnal amgylchedd byw iach.”
Dywedodd ClwydAlyn y bydd yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r cyfarwyddyd angenrheidiol, a sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fydd problem yn cael ei chofnodi.
Os ydych yn breswyliwr ClwydAlyn ac yn bryderus am damprwydd neu lwydni yn eich cartref, yna darllenwch ein cyfarwyddyd trwy glicio yma. Os ydych yn cael trafferth gydag anwedd, tamprwydd neu lwydni yna anfonwch ffotograffau trwy e-bost ynghyd â’ch manylion cyswllt at help@clwydalyn.co.uk