Mae cynllun datblygu tai newydd ar Ynys Môn wedi dechrau’n ddiweddar yn agos at gampws Pencraig Coleg Menai yn Llangefni.
Bydd y prosiect £9.6miliwn, sy’n cael ei arwain gan ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, yn creu 60 o gartrefi fforddiadwy newydd a fydd ar gael i’w prynu neu eu rhentu erbyn Mai 2023.
Bydd y datblygiad yn cynnig cartrefi effeithlon o ran ynni gyda chyfradd A EPC a byddant yn cynnwys amrywiaeth o dechnolegau cynaliadwy, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a fydd yn lleihau’r costau gwresogi ac yn lleihau’r allyriadau carbon.
Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:
“Mae hwn yn gynllun newydd cyffrous ar Ynys Môn a fydd yn cynnig cartrefi fforddiadwy o safon uchel a bydd yn ymdrin â’r angen am dai yn yr ardal leol yn ogystal â chynnig cyfle gwych i fyfyrwyr o’r coleg ddysgu.”
“Ein cenhadaeth yw trechu tlodi ac ymdrechu a sicrhau bod gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at dai o safon ragorol.
“Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth ag Anwyl Partnerships a Chyngor Sir Ynys Môn i’r cynllun ddwyn ffrwyth a diwallu anghenion lleol, yn ogystal â rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol.”
Bydd Anwyl Partnerships yn gwneud y gwaith adeiladu ar y safle, gan ddefnyddio eu tîm prosiect mewnol profiadol gyda chefnogaeth cadwyn gyflenwi leol, yn cynnwys contractwyr a chyflenwyr.
Bydd y safle 4.2 erw, a oedd yn rhan o gampws y coleg yn y gorffennol, yn ddatblygiad newydd fydd yn cynnwys 44 o dai dwy a thair ystafell wely ac 16 o fflatiau dwy ystafell wely.
Dywedodd Mike Nevitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Anwyl Partnerships:
“Mae hwn yn brosiect sy’n ei hanfod yn cynnwys adeiladu cymuned newydd sbon yn Llangefni, gan greu 60 o dai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt ar rent/i’w gwerthu.
“Mae cymuned o bwys gwirioneddol gyda’r prosiect hwn ac mae’r safle wedi ei ddylunio i helpu i feithrin yr ethos hwn. Bydd ein dull yn cyd‐fynd â gweledigaeth dymor hir ein cleientiaid a bydd yn cael ei harwain gan y gymuned bob cam o’r ffordd.”
“Mae gan Wasanaeth Tai’r Cyngor gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion tai ac arwain ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu tai o safon uchel yn lleol. Bydd ein Strategaeth Dai 2022 ‐ 2027 yn ganolog wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, i barhau i fodloni anghenion ein preswylwyr yn awr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mummery:
“Rwy’n falch o weld bod y gwaith wedi dechrau yn Llangefni. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai Ynys Môn ac mae mwy fyth o angen i gefnogi teuluoedd lleol i mewn i’r farchnad dai. Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i wneud hyn; a bydd o fudd i gwmnïau lleol a’r economi.”
Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500