Skip to content

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i gynnig 100 o gartrefi fforddiadwy yn Ninas Gardd, Glannau Dyfrdwy i gynnig amrywiaeth o gartrefi ar gyfer yr ardal.

Fel rhan o’r datblygiad Porth y Gogledd, o dan arweiniad ClwydAlyn ac ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Lane End, byddwn yn cynnig 100 o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely ynghyd â byngalos dwy ystafell wely a fflatiau un a dwy ystafell wely.

Bydd y cynllun yn cynnig cartrefi ynni‐effeithlon ac sy’n ystyriol o garbon, gyda Thystysgrif Perfformiad Gradd A ac ystod o dechnolegau cynaliadwy’n ogystal. Bydd y cartrefi wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau o safon ac yn defnyddio pympiau gwres sy’n defnyddio aer yn hytrach na systemau gwresogi a dŵr poeth traddodiadol. O ganlyniad bydd y systemau hyn yn lleihau’r costau gwresogi a gostwng yr allyriadau carbon.

“Bydd datblygu’r safle hwn i gynnig 100 o gartrefi newydd o safon yn bodloni angen allweddol am dai fforddiadwy ar gyfer amryw bobl yr ardal. Bydd dyluniad ac ansawdd y gwaith adeiladu’n sicrhau y byddai’r cartrefi yn chwaethus a chyfforddus yn ogystal â’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n bleser gennym ni fod yn cydweithio gyda Lane End i gyflawni’r cynllun a chreu cymuned newydd sy’n ferw o brysurdeb ynghyd â hybu cyfleoedd gwaith yr ardal.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

Bydd Lane End yn cynnal gwaith adeiladu ar y safle, gan roi eu harbenigedd helaeth yn y sector adeiladu a thai ar waith i gynnig tai modern a fforddiadwy i filoedd o bobl.

Dywedodd Scott Ashall, Cyfarwyddwr Tir Grŵp Lane End:

“Rydw i’n falch iawn o fod ynghlwm â’r datblygiad Porth y Gogledd. Bu i’r tîm weithio’n ddiflino i gyflawni’r gwaith hyd yn hyn ar y prosiect ac rydym yn awyddus i gwblhau’r cam nesaf a chau pen y mwdwl ar y prosiect.

“Bydd y cynllun yn rhan o un o’r cyfleoedd datblygu defnydd cymysg mwyaf yng Ngogledd Cymru a heb os nac oni bai fe fydd trawsnewid ardal Dinas Gardd Porth y Gogledd yn creu effaith gadarnhaol sylweddol ar drigolion yr ardal.

“Mae Gogledd Cymru’n ardal twf ar gyfer y Grŵp Lane End gan edrych tua’r dyfodol yn 2022 ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i gynnig cartrefi o safon i ClwydAlyn ym Mhorth y Gogledd.

“Bûm yn cydweithio’n ddi‐baid gyda’r Awdurdod Lleol ac ein partneriaid yn ClwydAlyn yn ystod y tair blynedd diwethaf i gyflawni’r prosiect hyd at y cam hwn. Rydym yn angerddol mai dim ond megis cychwyn mae ein perthynas gyda’r ddau gorff.”

Ychwanegodd Craig Sparrow:

“Rydym wrth ein bodd o allu bwrw iddi gyda’r gwaith ar y safle. Bu i’r tîm weithio’n galed dros ben i gyflawni’r prosiect hyd y cam hwn a bydd yn sicrhau buddsoddiad sylweddol i’r ardal, gan ategu ein cenhadaeth i gyfoethogi cymunedau Gogledd Cymru.”

Mae’r cynllun hwn yn rhan o raglen datblygu ClwydAlyn i gynnig 1500 o gartrefi newydd ychwanegol yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 gyda buddsoddiad o £250m. I’r perwyl hwn byddwn yn cymryd yr awenau ar gyfanswm o dros 7,500 o dai.