Skip to content

Sut y mae merched sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn chwalu’r stereoteipiau rhyw traddodiadol? Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ystod yr Wythnos Adeiladu, eleni buom yn siarad â Zoe Adamkiewicz a Chloe Edwards, sydd ill dwy yn brentisiaid gyda KMT Electrical ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes, ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn.

Zoe

‘Fe wnes i gais am brentisiaeth pan ddechreuais y coleg amser llawn yn 2017. Gan gychwyn fy mhrentisiaeth gydag Adra, fe wnes i gymhwyso ym Mai 2022, a rŵan dwi’n gweithio i KMT Electrical a hynny ers mis Hydref diwethaf.

‘Ar hyn o bryd dwi’n gosod y gwifrau mewn tai newydd ar y safle ym Mhentraeth. Fe wnaethom ddechrau ar y gwaith cyntaf (gweithio o’r sylfeini i blastro’r waliau’n fewnol) ym mis Hydref a rŵan dwi ar yr ail gam yn y gwaith (gwaith ar ôl y plastro). Ac yn yr ychydig fisoedd nesaf byddant yn barod i ddechrau eu profi.

‘Y pethau dwi’n eu mwynhau fwyaf am fy swydd yw cymryd y cyfrifoldeb pan fyddaf ar y safle ar fy mhen fy hun. Dwi’n gwybod os bydd problem, y bydd raid i mi ei datrys. Dwi’n mwynhau dod i’r safle bob dydd a gweld y cynnydd sy’n digwydd, ac ar ôl i’r safle ym Mhentraeth gael ei orffen, byddaf yn symud i’r safle newydd yn y Fali. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld safle yn cael ei gychwyn o ddim, i gael ei orffen wedyn.

‘Roeddwn yn meddwl y byddai prentisiaeth yn well na mynd i’r Brifysgol oherwydd y byddwn yn dysgu ac ennill arian ar yr un pryd. Dydi’r ffaith bod hon yn cael ei hystyried yn swydd i ddynion erioed wedi fy mhoeni achos doeddwn i erioed yn deall pam na allwn ni wneud ‘Job Dyn’. Yn bennaf oll, roeddwn yn teimlo bod cael crefft yn fanteisiol mewn sawl ffordd, ac y gallwn i weithio yn rhywle o gwmpas y byd ar ôl cael fy nghymwysterau.

‘Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched byddaf yn dod i’r gwaith gyda gwên fawr ar fy wyneb, fel arfer. Mae bod yr unig ferch ar y safle yn fy ngwneud yn falch, ac rwy’n cael cymaint o hwyl a thynnu coes gyda’r holl grefftwyr eraill. Yn bennaf oll dwi’n teimlo bod pawb yn gyfartal, ac nid oes unrhyw beth o gwbl i atal merch rhag gwneud gwaith dyn.’

Chloe

‘Fe weles i’r cyfle am brentisiaeth pan wnaeth ffrind i’r teulu, oedd yn lleol, ddweud wrthyf am KMT Electrical. Roeddwn wedi gwneud 12 mis yn y coleg, ac fe wnes i ymgeisio.

‘Mae fy ngwaith yn golygu’r holl waith angenrheidiol o’r gwaith cyntaf i’r ail yn y tai ffrâm bren newydd. Weithiau byddaf hefyd yn gweithio ar drosi tai yn fflatiau tai cymdeithasol, ac rwyf wedi cynorthwyo i osod paneli solar, gwefrwyr ceir a gosod y troswyr ar gyfer y systemau paneli solar.

‘Dwi’n mwynhau bod ar y safle a gweld pobl wahanol yn gwneud eu gwaith a gweld y canlyniad yn bennaf. Roeddwn yn dweud bob amser na fyddwn eisiau bod yn gwneud yr un peth bob dydd, ac yn y gwaith yma mae’n golygu bod rhywbeth newydd i’w ddysgu o hyd, a chael eich amgylchynu gan bobl sydd â swyddi gwahanol i chi.

‘Fe ddwedwyd wrthyf yn y coleg y byddwn yn ei chael yn anodd cael prentisiaeth mewn crefft oherwydd fy mod yn ferch, ac fe wnaeth hynny fi’n benderfynol o drio. Byddaf yn treulio Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gweithio ar y safle’n hapus!’

Cefnogir cychwyn ysbrydoledig Zoe a Chloe yn eu gyrfa yn llawn gan Williams Homes a ClwydAlyn, partneriaid yn y datblygiadau. Ychwanegodd Owain Williams o Williams Homes,

‘Yma yn Williams Homes, rydym yn awyddus i annog mwy o ferched i’r diwydiant adeiladu ar bob lefel. Rydym yn ymdrechu i greu mwy o gyfleoedd trwy gynnig mentora a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Mae amgylcheddau gwaith cynhwysol a chroesawus i ferched yn hanfodol, gan gynnwys cyfleusterau addas i ferched ar y safle.’