Skip to content

Yn ddiweddar mae un o breswylwyr ClwydAlyn wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed gyda ffrindiau a theulu mewn cynllun Gofal Ychwanegol gan ClwydAlyn.

Mwynhaodd Wilf Bateman o Lys Raddington, barti i ddathlu’r garreg filltir yn y cynllun a darllenodd Wilf gerdd wedi ei hysgrifennu gan ei eglwys leol ar gyfer yr achlysur.

Gyda chymorth ei ferch Sylvia a’i fab yng nghyfraith, Graham, mae Wilf wedi byw yn Llys Raddington ers y diwrnod yr agorodd y cynllun yn Hydref 2018, ac mae’n rhannu bwrdd cinio bob dydd gyda’r ffrindiau da y mae wedi dod i’w hadnabod ers byw yma.

Daeth pawb at ei gilydd yn y parti i ddathlu ei oes hir a hapus, gyda’i atgofion o fyw a magu ei deulu gyda’i wraig Megan yn Llaneurgain, Sir y Fflint.

Mae Wilf yn ddyn chwaraeon mawr ac ar hyd ei oes mae wedi bod yn ymwneud â chwaraeon, yn chwarae pêl-droed a chriced i Laneurgain a thennis i dref yr Wyddgrug; badminton i Laneurgain, Treffynnon a’r sir, a golff yng Nghlwb Golff Padeswood a Bwcle, lle’r oedd yn falch o fod â handicap o 7.

Pan ofynnwyd iddo beth yw’r gyfrinach am ei oes hir a llawn bywyd, dywedodd Wilf mai ei ddiddordeb brwd mewn chwaraeon ar hyd ei oes sy’n gyfrifol.

Mae Wilf yn un o gymeriadau Llys Raddington ac mai ei hiwmor a’i agwedd gadarnhaol at fywyd yn annwyl gan bawb yn y cynllun, a dyma’r gerdd a ddarllenodd ar ei ben-blwydd arbennig:

One Year At A Time

Today, Dear Lord, I am 100, and there is a lot I have not done
I hope, Dear Lord, you will let me live until I am 101

But then, if I haven’t finished all I want to do
Would you let me stay until I am 102?

So many places I want to go, so very much to see
Do you think you could manage to make it to 103?

The world is changing very fast, there is so much in store
I would really like to live until I’m 104

And if by then I’m still alive
I would like to stay till 105

More planes will be up in the air, so around I’d like to stick
And see what happens when I am 106

I know, Dear Lord, it’s much to ask (and it must be nice in Heaven)
But I would like to enjoy a sunset, and stay till I am 107

I know by then I will not be fast, and sometimes I will be late
But it would be nice to be around at 108

I will have seen so much and had a wonderful time
So I will be willing to leave at 109