Skip to content

Mae aelodau Tîm Asedau ClwydAlyn wedi defnyddio eu henillion o gystadleuaeth fewnol, ynghyd â chyfraniad gan bartner cefnogol, i brynu detholiad o anrhegion a danteithion Nadolig i deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro dros gyfnod yr ŵyl.

Treuliodd aelodau Tîm Asedau ClwydAlyn ddiwrnod yn siopa am anrhegion Nadolig a fydd yn cael eu rhoi i deuluoedd digartref sy’n byw yng Nghanolfan Deulu Erw Groes, Treffynnon.

Gan ddefnyddio arian y gwnaethant ei ennill mewn cystadleuaeth ‘gêmeiddio’ fewnol, ynghyd â chyfraniad hael gan bartner cefnogol, aeth y tîm ati i brynu detholiad o deganau, gemau a danteithion, a fydd yn sicr yn rhoi gwên fawr ar wynebau’r plant sy’n byw yng Nghanolfan Deulu Erw Groes ar fore Nadolig!

Gall teuluoedd gael eu cyfeirio at Erw Groes a chynlluniau byw â chymorth eraill ClwydAlyn drwy’r cynghorau lleol.

“Trwy roi’r anrhegion hyn i deuluoedd sy’n byw yn Erw Groes dros gyfnod y Nadolig, rydyn ni’n gobeithio cynnig mwy nag anrhegion yn unig i breswylwyr ClwydAlyn. Gobeithio y bydd y rhoddion hyn yn rhoi teimlad o normalrwydd ac optimistiaeth iddyn nhw ar adeg sy’n gallu bod yn anodd iawn.”
Kayleigh Smith
Swyddog Arweiniol Asedau