Skip to content

Mae Tan y Fron yn gynllun Byw’n Annibynnol i bobl hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal cartref 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.

Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal cartrefi, cefnogaeth a chymorth i hyrwyddo annibyniaeth.  Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.

Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.

Mae Llandudno yn adnabyddus am ei draethau, y promenâd hir a’r Pier Fictoraidd, ei gyrsiau golff a’i lwybrau cerdded. Saif Tan y Fron 1 filltir o ganol y dref, sydd â digonedd o siopau a chaffis.  Bydd arosfan bws tu allan i brif fynedfa Tan y Fron, gan gynnig cysylltiad hawdd â chanol y dref. Os byddwch am ei chymryd hi’n hamddenol ar lan y môr neu fanteisio ar yr holl ddewis o weithgareddau hamdden yn Llandudno, bydd cartref newydd yn Llandudno yn ddelfrydol.

Bwyty ar y safle
Gyda phen-cogydd, cacennau cartref a phrydau trwy’r wythnos
System Larwm Cadwyn
Gofal cartref a chefnogaeth 24 awr y dydd ar y safle yn ôl yr
Tir Cymunedol
Gerddi’n cael eu cynnal a’u cadw i’w mwynhau trwy gydol y flwyddyn gan y tenantiaid
pdf
Taflen Tan y Fron
Lawrlwythwch

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges