Skip to content

Cynhaliodd prosiect sy’n anelu at gynyddu’r nifer o bobl ifanc ag anableddau dysgu sy’n cael gwaith ei seremoni raddio flynyddol yn Llys Raddington, Sir y Fflint yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y seremoni yn dathlu llwyddiannau dosbarth 2022/23 a raddiodd o raglen DFN Project SEARCH – prosiect cydweithredol gyda Chymdeithas Tai ClwydAlyn, DFN Project SEARCH, Cyngor Sir y Fflint a Hft Sir y Fflint, sy’n cynnig profiad gwaith gwirioneddol, ynghyd â hyfforddiant mewn cyflogadwyedd a sgiliau byw’n annibynnol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu gyflyrau’r sbectrwm awtistig sydd am fynd ymlaen i gael gwaith cyflogedig.

Dywedodd Elaine Gilbert, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfathrebu a Marchnata yn ClwydAlyn, a gyflwynodd eu tystysgrifau graddio i’r interniaid:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cynnal y rhaglen unigryw hon yn ein cynllun Byw’n Annibynnol, Llys Raddington eleni."

“Roedd yn bleser gwirioneddol cyflwyno’r tystysgrifau i ddangos cefnogaeth ClwydAlyn i’r prosiect gwych yma. Rydym wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau dysgu, ac mae cyflogaeth â chymorth yn flaenoriaeth allweddol."

“Mae pawb yn haeddu cael yr un cyfleoedd – ennill cyflog, byw’n annibynnol a datblygu cyfeillgarwch. Mae Project SEARCH yn rhoi’r sgiliau a’r profiad ymarferol i bobl ifanc fod yn barod am waith ac mae’n gyfle gwych i roi cefnogaeth i bobl ifanc ag anabledd dysgu yn Sir y Fflint.  Rwy’n falch ein bod yn bartner allweddol yn y rhaglen hon.”
Dywedodd Elaine Gilbert
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfathrebu a Marchnata yn ClwydAlyn

Uchafbwynt y digwyddiad oedd croesawu’r interniaid, Conor, Thomas, Louise, Charlotte ac Ellie i gyflwyno eu profiadau trwy’r rhaglen a dangos eu cynnydd a’u llwyddiant yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Annie Jackson, Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol yn ClwydAlyn:

“Rwyf mor falch o’r holl interniaid eleni; maent wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod byr ac rwyf yn dymuno’r gorau iddyn nhw."

“Mae creu gweithle cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, yn gyfforddus a diogel i fod yn nhw eu hunain yn ganolog i ClwydAlyn. Rydym yn credu y dylai pawb allu cael mynediad at waith cadarnhaol sy’n rhoi boddhad. Rydym yn falch o fod yn bartner i Project SEARCH, sy’n rhoi sgiliau, hyder a phrofiad gwaith i bobl ag anableddau dysgu i gael gwaith yn y dyfodol."

“Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol rhoi lleoliadau gwaith i interniaid 2023 ac roedd yn wych dathlu eu llwyddiant yn y Seremoni Raddio.”
Dywedodd Annie Jackson
Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol yn ClwydAlyn

Dywedodd Jo Taylor, Rheolwr Gwasanaethau i Anableddau yng Nghyngor Sir y Fflint:

“Mae Project SEARCH yn gyfle gwych i gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu yn Sir y Fflint ac rwy’n falch ein bod yn bartner allweddol yn y rhaglen hon.”

Dywedodd Jordan Smith, Rheolwr Rhanbarthol yn Hft:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn bartneriaid i ClwydAlyn, Cyngor Sir y Fflint a DFN Prosiect SEARCH, sy’n darparu deilliannau i newid bywydau i’r bobl yr ydym yn eu cefnogi. Rydym wedi rhedeg pedair rhaglen Project SEARCH ers i’n partneriaeth gael ei ffurfio yn 2019. Eleni rydym wedi cefnogi pump o unigolion rhyfeddol, gan roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a chael gwybod ym mha swyddi y byddai ganddynt ddiddordeb. Rydym yn dymuno’r gorau i Conor, Thomas, Louise, Charlotte, Ellie a Delmar yn y dyfodol ac rwy’n ffyddiog y byddant yn cyflawni eu nodau o ran gwaith.”

Dywedodd Julia Hawkins, Rheolwr Cyflogaeth â Chymorth yn HFT Sir y Fflint:

“Ar ran pawb yn DFN Project Search, hoffwn ddweud llongyfarchiadau anferth i’r interniaid gwych yma sy’n graddio eleni, a diolch i’n holl bartneriaid am roi profiad fydd yn newid eu bywydau iddynt. Mae gan bawb sydd wedi cwblhau’r rhaglen dalent anferth i’w chynnig fel gweithwyr newydd. Byddwn yn annog cyflogwyr i fuddsoddi yn y dalent newydd honno, oherwydd rwy’n gallu gwarantu na fyddant yn cael eu siomi gyda’r canlyniadau.”

Mae’r rhaglen y cymerodd y bobl ifanc ran ynddi, sy’n cael ei rhedeg trwy bartneriaeth rhwng DFN Prosiect SEARCH, Cyngor Sir y Fflint, a’r elusen Hft, yn eu galluogi i ddefnyddio eu sgiliau ac mae’n rhoi lle iddynt ddysgu a datblygu sgiliau newydd sydd wedi eu cynorthwyo i fynd ymlaen i archwilio cyfleoedd gwaith gyda sefydliadau yn yr ardal leol.

Mae’r rhaglen arloesol yn cynnwys trochi’n llwyr yn y gweithle ar ei orau, gan hwyluso cyfuniad diwnïad o hyfforddiant dosbarth, archwilio gyrfa a hyfforddiant mewn sgiliau ymarferol.

Gyda’r set ddata fwyaf yn y Deyrnas Unedig, mae model ar sail tystiolaeth DFN Project SEARCH yn herio camargraffiadau ac yn newid y ffordd y mae cymdeithas yn gweld ac yn galluogi oedolion ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu gwir botensial a’u potensial llawn.

Mae DFN Project SEARCH yn gweithio i lunio cymdeithas fwy cynhwysol trwy helpu i greu cyfleoedd gyrfa llawer gwaith i’r rhai ag anableddau dysgu ac awtistiaeth trwy 76 o gynlluniau interniaeth â chymorth gweithredol ar draws y Deyrnas Unedig sy’n dal i dyfu.

Gallwch ddysgu rhagor am DFN Project SEARCH yn: https://www.dfnprojectsearch.org