Skip to content

Mae saith o oedolion ifanc talentog – Deanna, Paige, Lewis, Ryan, Finnley, Haydn a Dewi –  wedi graddio o Raglen Pontio i Fyd Gwaith DFN Project SEARCH gyda Chymdeithas Dai CwydAlyn yn Sir y Fflint yn ddiweddar. Maent yn ymuno â dros 1,800 o raddedigion ar draws y Deyrnas Unedig, y mae 70% ohonynt wedi cael swyddi llawn amser. Bydd y garreg filltir hon yn esgor ar gyfleoedd newydd cyffrous wrth iddynt ddechrau chwilio am waith gyda sefydliadau lleol.

Mae Rhaglen Pontio i Fyd Gwaith DFN Project SEARCH, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint a’r elusen Hft, yn helpu oedolion ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i ennill sgiliau hanfodol a phrofiad, ynghyd â meithrin eu hyder, yn barod ar gyfer ymuno â’r gweithlu.

Nod DFN Project SEARCH yw creu cymdeithas fwy cynhwysol drwy wella cyfleoedd gyrfa unigolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle iddynt gael gwersi yn yr ystafell ddosbarth, dysgu am yrfaoedd, a chael hyfforddiant ymarferol yn ystod eu blwyddyn olaf o addysg.

Mae Tai ClwydAlyn wedi rhoi cefnogaeth gyson i’r fenter hon drwy gynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr a chymryd rhan weithredol yn natblygiad gyrfa yr interniaid. Mae ei ymrwymiad i gynhwysiant a grymuso wedi chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant y rhaglen.

“Mae creu gweithle cynhwysol lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn gyfforddus ac yn ddiogel i fod yn nhw eu hunain wrth galon ethos ClwydAlyn. Rydym wedi ymroi yn llwyr i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i bobl ag anableddau dysgu ac mae cyflogaeth â chymorth yn flaenoriaeth allweddol. Mae pawb yn haeddu cael yr un cyfleoedd – i ennill cyflog, byw’n annibynnol a gwneud ffrindiau.”
Sian Williams
Executive Director of People, Culture and Communications

Dywedodd Annie Jackson, Arbenigwr y Gymuned ac Ymgysylltu ClwydAlyn: “Pleser pur oedd cael y fraint o gyflwyno eu tystysgrifau i’r graddedigion a dangos cefnogaeth ClwydAlyn i’r prosiect gwych hwn. Rydym yn credu y dylai pawb gael cyfle i gael gwaith cadarnhaol, gwerth chweil. Rydym yn falch o fod yn bartner DFN Project SEARCH, a rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r profiad gwaith y mae eu hangen ar bobl ifanc ag anableddau dysgu er mwyn iddynt ddod o hyd i waith yn y dyfodol.”

Dywedodd Jo Taylor, Rheolwr Gwasanaeth Anableddau Cyngor Sir y Fflint: “Mae DFN Project SEARCH yn gyfle gwych i gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu yn Sir y Fflint ac rwyf yn falch ein bod yn bartner allweddol yn y rhaglen hon.”

Dywedodd Jordan Smith, Pennaeth Gofal a Chymorth Hft: “Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth â ClwydAlyn, Cyngor Sir y Fflint a DFN Project SEARCH, sy’n cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau’r bobl rydym yn eu cefnogi. Rydym wedi rhedeg pedair rhaglen DFN Project SEARCH lwyddiannus ers sefydlu ein partneriaeth yn 2019. Eleni rydym wedi rhoi cymorth i bump o unigolion anhygoel, gan roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a darganfod pa swyddi sydd o ddiddordeb iddynt. Rydym yn dymuno’r gorau i Deanna, Paige, Lewis, Ryan, Finnley, Haydn a Dewi yn y dyfodol, ac rwyf yn hyderus y byddant yn cyflawni eu nodau ym myd gwaith.”

Mae cyflogwyr sydd â diddordeb mewn creu gweithle cynhwysol a darganfod talent newydd yn cael eu hannog i gysylltu â DFN Project SEARCH. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am gyfleoedd partneriaeth, ewch i: https://www.dfnprojectsearch.org