Mae ClwydAlyn, y Gymdeithas Dai o Ogledd Cymru, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Arfer Gorau Working Families 2024 yn y categori Iechyd Meddwl a Lles.
Mae’r gwobrau yn dathlu cyflogwyr ledled y Deyrnas Unedig sy’n arwain y ffordd o ran eu diwylliant, arferion gwaith a gweithleoedd hyblyg sy’n ystyriol i weithwyr sy’n rhieni a gofalwyr.
Rwyf yn falch iawn o ddweud bod ein Tîm Iechyd a Lles hefyd wedi ennill marc ansawdd lles lefel Aur Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Mae 145 o’n haelodau staff eisoes wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ac rydym yn un o blith pump sefydliad arall yng Nghymru yn unig sydd wedi ennill y logo Marc Ansawdd Aur hwn.
Rôl person cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle yw bod yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnig cymorth ac arweiniad i’w cydweithwyr hefyd.
Mae cyflogwyr o wahanol sectorau ledled y Deyrnas Unedig wedi cystadlu i ddenu sylw’r beirniaid mewn naw categori a bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo yn Neuadd yr Apothecarïaid, Llundain, ar 26 Mehefin 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/