Skip to content

Ddydd Gwener, 26 Gorffennaf, daeth rhanddeiliaid allweddol o Lywodraeth Cymru, Cyngor Cymuned Y Fali a chynghorwyr lleol ynghyd i ymweld â’r datblygiad tai ecogyfeillgar sydd newydd ei gwblhau gan Tai ClwydAlyn yn y Mart, Y Fali, Ynys Môn. Mae’r prosiect £10.4 miliwn wedi creu 55 o dai fforddiadwy sy’n cynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni er mwyn ceisio trechu tlodi tanwydd a gwella lles preswylwyr.

Adeiladwyd y cartrefi newydd gan gwmni Williams Homes; maent yn amrywio o fflatiau un ystafell wely i dai pedair ystafell wely, ac maent yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Defnyddiwyd defnyddiau cynaliadwy lleol lle bo’n bosibl, gan ategu ymrwymiad y datblygiad i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Barry Evans; ClwydAlyn, Ynys Môn MS Rhun ap Iorwerth, Penny Lofts ; Williams Homes, Cllr Gwylym O Jones, Cllr Ken Taylor, Steven Walker; Williams Homes and Bryn Williams; ClwydAlyn. Llun Mandy Jones
Yn ôl Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn, Arweinydd Plaid Cymru: "Roedd yn wych cael cyfle i alw draw yn safle hen Felin, Y Fali, i weld datblygiad newydd Cymdeithas Dai ClwydAlyn a Chyngor Sir Ynys Môn â’m llygaid fy hun.

Mae’r cartrefi o ansawdd da, ac yn manteisio ar y dechnoleg amgylcheddol ddiweddaraf i sicrhau eu bod mor effeithlon o ran ynni â phosibl er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a chadw biliau yn isel.

Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb fydd yn troi’r tai yn gartrefi a’r datblygiad yn gymuned.
Rhun ap Iorwerth
Arweinydd Plaid Cymru
Cllr Gwylym O Jones and Clr Ken Taylor. Llun Mandy Jones

Mae’r Cynghorydd Ken Taylor a’r Cynghorydd Gwilym O Jones o Gyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn cadw golwg ar gynnydd y datblygiad ers y dechrau. Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor: “Mae hi wedi bod yn fraint gweld y cynnydd ar y datblygiad arloesol hwn. Mae’r cartrefi modern a deniadol nid yn unig yn cwrdd â safonau byw cyfoes, maen nhw hefyd yn gam sylweddol ymlaen i leihau straen ar y preswylwyr drwy sicrhau effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yng ngoleuni’r argyfyngau costau byw ac ynni diweddar.”

Roedd Neil Tuck, Cadeirydd Cyngor Cymuned Y Fali, yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd y prosiect: “Mae’r datblygiad tai hwn yn hollbwysig i’n hardal. Rydyn ni’n falch i weld ei fod nid yn unig yn cwrdd â safonau rheoleiddiol ond yn rhagori hefyd o ran safonau effeithlonrwydd ynni. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y tenantiaid yn mwynhau eu cartrefi newydd ac yn teimlo’n gysurus yma.”

Roedd Tom Boome o Tai ClwydAlyn yn dymuno diolch i bawb: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r prosiect hwn ac yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned a’n partneriaid. Wrth i ni barhau i adeiladu cartrefi cynaliadwy ledled Gogledd Cymru, rydyn ni’n gwahodd eraill i ymuno â’n cenhadaeth.”

Dywedodd Kelly Davies-Williams, preswyliwr Y Mart: “Rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi symud yma; rwyf wrth fy modd â’r dyluniad a’r gosodiad. Bydd byw yma yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran arbed arian ar filiau ynni, gan ein bod ni’n arfer talu £320 y mis am nwy a thrydan.”

I gael rhagor o wybodaeth am Tai ClwydAlyn, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk