Mewn ymdrech ar y cyd i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd a chodi arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol, fe wnaeth aelodau staff, ynghyd â rhai o’u plant, o sefydliadau ClwydAlyn, Ambiwlans Awyr Cymru, DHL Logistics ac Enhanced Medical gymryd rhan yn 11fed digwyddiad blynyddol Big Sleep Out Tai ClwydAlyn. Cynhaliwyd y digwyddiad nos Sadwrn, 12 Hydref, rhwng 9pm a 6am, a daeth pawb ynghyd ym mhrif swyddfeydd ClwydAlyn yn Llanelwy i gysgu allan am y noson.
Yn ôl Debra Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu’r unig wasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru, ac mae angen i ni godi £11.2 miliwn i ariannu’r costau gweithredol bob blwyddyn. Rwyf wedi cymryd rhan yn ymgyrch Big Sleep Out am sawl blwyddyn bellach, mae’n codi arian hollbwysig i Wasanaethau Digartrefedd ClwydAlyn ac Ambiwlans Awyr Cymru sy’n darparu cymorth hanfodol i lawer o bobl bob blwyddyn. Mae’n brofiad gwahanol iawn ond rydym yn ddigon ffodus i ddioddef hyn unwaith y flwyddyn yn unig, yn wahanol i lawer o bobl ddigartref yng ngogledd Cymru. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein digwyddiad”.
Yn ôl Lynda Williams o ClwydAlyn: “Dros yr 11 mlynedd diwethaf, mae ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr gwych wedi helpu i godi dros £50k ar gyfer gwasanaethau digartrefedd. Mae’r arian hwn yn hollbwysig, rydym yn darparu cymorth i dros 100 o bobl bob blwyddyn, gan eu helpu i ddod o hyd i rywle sefydlog y gallant ei alw’n gartref yn ein gwasanaethau. Mae digartrefedd yn broblem gymhleth a pharhaus, ond rydym wedi ymrwymo i’r fenter hon gyhyd ag y bo angen. Byddwn yn dal i weithio i sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn derbyn y gofal, cymorth a’r urddas maen nhw’n eu haeddu.”
I gyfrannu at yr achos hwn, ewch i dudalen JustGiving ClwydAlyn: 11fed Digwyddiad Big Sleep Out ClwydAlyn ar JustGiving