Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), wedi canmol Cartref Gofal Llys Marchan yn Rhuthun am ‘agwedd ragweithiol a chreadigol’ y staff gofal, yr adeiladau ‘glân, sydd wedi’u cynnal yn dda’, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth ‘ragorol’.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd adroddiad chwemisol ar Gartref Gofal Llys Marchan, yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy’n darparu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Adroddiad yn edrych ar bedwar maes penodol:
- Llesiant
- Gofal a Chymorth
- Amgylchedd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
ClwydAlyn yw perchennog a rheolwr Llys Marchan, ac mae’r cartref yn cynnig 10 lle cofrestredig ar gyfer oedolion y mae angen gofal preswyl tymor byr, canolradd neu dymor hir arnynt ar gyfer salwch meddwl. Mae’r adeilad pwrpasol yn cynnwys cyfleusterau modern a staff sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal 24 awr, cymorth a chyfeillgarwch o’r safon uchaf.
Yn dilyn yr arolygiad, a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2025, dywedodd adroddiad AGC: “Mae pobl yn byw’n hapus yn Llys Marchan. Mae’r gofal sy’n cael ei ddarparu yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn ystyried pob agwedd ar lesiant corfforol a meddyliol pobl. Mae pobl yn cael eu hannog i arwain eu cymorth, creu ac adolygu cofnodion gofal a gwneud dewisiadau am eu bywydau bob dydd. Mae’r gweithwyr gofal yn rhagweithiol ac yn greadigol wrth helpu pobl i gyflawni eu nodau personol.”
Cafodd safon yr adeiladau a’r addurniadau eu canmol hefyd, a disgrifiwyd y cartref fel: “lle glân, hygyrch a diogel, sy’n cael ei gynnal yn dda”. Roedd agweddau eraill ar yr adroddiad yn canmol y rhyngweithio cefnogol a gofalgar rhwng staff a phreswylwyr, y bwyd maethlon, y dewis o weithgareddau a digwyddiadau, a’r arferion diogelu gwych sydd ar waith.
“Mae galw cynyddol am ofal preswyl o ansawdd uchel i oedolion â salwch meddwl ledled Gogledd Cymru. Rydyn ni’n falch ein bod yn ateb y galw hwnnw yn Rhuthun, gan gynnig cartref diogel, cynnes a chyfforddus i’n preswylwyr."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Llys Marchan – Clwydalyn