Mae’r preswylwyr cyntaf wedi dechrau symud i’w cartrefi nweydd yn natblygiad ClwydAlyn, Northern Gateway, ar Lannau Dyfrdwy. Bydd 100 o gartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yn cael eu hadeiladu ar y safle.
ae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi trosglwyddo’r cartrefi i’r preswylwyr cyntaf fel y gallant symud i ddatblygiad newydd Northern Gateway yn Garden City ar Lannau Dyfrdwy. Cafodd y cartrefi eu hadeiladu gan Castle Green Partnerships a’u datblygu gyda Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Mae’r eiddo newydd yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos dwy ystafell wely a fflatiau un a dwy ystafell wely.
Er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau’r effaith negyddol gall cartrefi sy’n llai effeithiol o ran ynni ei chael ar iechyd a lles, adeiladwyd holl dai Northern Gateway o fframiau pren ynghyd â llawer iawn o ddeunydd ynysu, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer i ddarparu gwers a dŵr poeth, a phaneli trydan solar.
“Mae ein cartref yn effeithlon o ran ynni, a bydd hyn o gymorth mawr i ni.
“Mae’n anhygoel ein bod yn mynd i gael cartref newydd yma."
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau newydd ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments