Skip to content

Mae preswylwyr yn Sir y Fflint wedi symud i fyw i’r 12 cartref fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt ar Princess Avenue ym Mwcle. Darparwyd y cartrefi gan ClwydAlyn, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru.

Un o’r preswylwyr i symud i fyw i’r datblygiad oedd Hayley Andrews sy’n fam i  ddau o blant. Mae hi’n dweud y bydd ei chartref newydd yn cael effaith anferth ar ei theulu ac o gymorth mawr i’w phlant sydd â chyflyrau meddygol.

Dywedodd Hayley: “Rwyf wedi symud i dŷ hardd tair ystafell wely, lle mae popeth wedi’i wneud ar fy nghyfer, ac mae gennym ardd wych, mae’n anhygoel.

Mae’r cartrefi yn rhan o ymrwymiad tymor hir ClwydAlyn i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ledled Gogledd Cymru; cartrefi am oes yw’r rhain ac mae eu dyluniad yn golygu bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol cyhyd ag y gallant.

Dywedodd Hayley: “Bydd symud i’r tŷ yma yn gwneud gwahaniaeth mawr; rwyf wedi bod yn talu £300 y mis am nwy a thrydan, a phan rydych chi’n byw ar gredyd cynhwysol mae hynny’n swm mawr. Gyda’r paneli solar a’r holl inswleiddio, mae’n hollol anhygoel.”

Adeiladwyd y cartrefi newydd yn Princess Avenue gan Gareth Morris Construction (GMC) ar ran ClwydAlyn, ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Mae’r datblygiad yn cynnwys dau dŷ tair ystafell wely a deg fflat un a dwy ystafell wely.

“Rydym yn falch iawn o ddatblygiad Princess Avenue gan fod y cartrefi hyn yn ganolog i’n cenhadaeth hirdymor i wella iechyd a lles ein preswylwyr.

“Mae’r cartrefi wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio dyluniadau arloesol ac maen nhw’n cynnwys ffrâm bren a defnyddiau naturiol a chynaliadwy, sy’n cael eu prynu’n lleol lle bo’n bosibl. Cartrefi am oes yw’r rhain yn y pen draw.
Penny Storr
Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn

Cafodd cynghorwyr lleol a staff Cyngor Sir y Fflint gyfle i ymweld â’r safle yng nghwmni cynrychiolwyr ClwydAlyn, y datblygwr Gareth Morris Construction, a’r penseiri Ainsley Gommon.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece: “Mae dyluniadau arloesol y cartrefi hyn yn golygu eu bod nhw’n ynni-effeithlon, gan arwain at filiau ynni is i’r tenantiaid newydd. Roeddwn yn falch iawn o weld ansawdd y cartrefi; maen nhw wedi’u cwblhau i safon uchel iawn.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/our-developments