Mae Plas Telford yn gynllun Byw’n Annibynnol i bobl hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal cartref a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.
Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal cartrefi, cefnogaeth a chymorth i hyrwyddo annibyniaeth. Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.
Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.
Mae Plas Telford ger pentref Acrefair ac yn agos at Langollen a thref Wrecsam. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus i brif drefi Gogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r cyfleusterau a’r siopau lleol o fewn pellter cerdded, gan gynnwys arosfan bws, gan ei gwneud hi’n hawdd i chi gyrraedd ardaloedd eraill.
![Plas Telford Wrexham](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/Plas-Telford-x-2-1-scaled.jpg)
![side picture of Plas Telford](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/Plas-Telford-Side-pic-1-scaled.jpg)
![Plas Telford - Wrexham front](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/DSC_9231-copy-1.jpg)
![Plas Telford - Wrexham front](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/BSC_9420-1-scaled.jpg)
![Plas Telford - Wrexham front](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/Plas-Telford-Front-x2-1-scaled.jpg)
![Couple smiling from plas telford, wrexham](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/050522-Plas-Telford-13.jpg)
![Image of catering staff with a selection of food at Plas Telford, Wrexham](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/GM572180.jpg)
![Sitting are of Plas Telford](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/08/GM572110.jpg)