Mae ClwydAlyn mewn partneriaeth â Cymru Gynnes wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Ymarfer Da TPAS Cymru 2023 fel yr ail yn y categori ‘Rhaglen Gefnogi/Cynghori Preswylwyr’.
Nod y prosiect Cartrefi, Pobl, Bywydau a Chymunedau Iach yw cefnogi defnyddwyr ynni ar draws Gogledd Cymru, a hyd yn hyn mae bron i 3,000 o ymyraethau wedi digwydd i helpu preswylwyr gyda gwres fforddiadwy a 2,500 arall o aelwydydd yn cael awgrymiadau a chyngor ar arbed ynni.
Mae Gwobrau Ymarfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru yn cydnabod a dathlu’r gwaith gwych y mae cymdeithasau tai a thenantiaid yn ei wneud yn eu sefydliadau a’u cymunedau, gan dynnu sylw at y ffordd y mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn buddsoddi yn eu tenantiaid a’u cymunedau a’u cefnogi a helpu preswylwyr i oresgyn heriau a gwella eu bywydau.
“Rydym ar ymgyrch i drechu problemau dyrys fel yr argyfwng ynni, ac rydym am arwain y sector pan ddaw yn fater o ddynodi ac ymdrin â’r achosion sylfaenol rhwng tlodi tanwydd, anghyfartaledd iechyd y gellir ei osgoi a llesiant."
“Yr argyfwng costau byw presennol yw’r eiliad ddiffiniol yn ein cyfnod ac mae ClwydAlyn yn ymroddedig i chwarae ein rhan wrth ymdrin â’r mater. Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym wedi bod yn gweithio’n glos gyda Cymru Gynnes i sefydlu prosiect Cartrefi, Pobl, Bywydau a Chymuned Iach, sy’n dynodi aelwydydd bregus ac yn cynnig dull holistaidd sy’n rhoi’r pwyslais ar y person, gan gynnig help, cyngor a chymorth arbenigol."
“Er mwyn cyflawni hyn mae dros 500 o weithwyr rheng flaen wedi cael eu hyfforddi gan ddarparu cymorth mewn dwy haen, dull ysgafn a thrylwyr, o bwyslais ar gyfeirio a chodi ymwybyddiaeth i ymyraethau wedi eu teilwrio ar gyngor ynni, arian a llesiant.“
Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi helpu pobl gyda:
- Arian banc tanwydd (Nwy a thrydan argyfwng i’r rhai sy’n talu ymlaen llaw)
- Cyngor ar Ynni, chefnogaeth, deall biliau ynni, cyngor ar dariff
- Galwadau tair ffordd gyda darparwyr ynni, cynlluniau talu
- Cymorth bwyd
- Camau effeithlonrwydd ynni eraill gan gynnwys systemau gwresogi
- Cyngor ar ddyledion
- Tariff dŵr cymdeithasol (Help U, Water Sure)
- Cronfa Gymorth trwy Ddisgresiwn (gan ddarparu nwyddau gwyn, dodrefn, tanwydd)
- Cronfa wres (Olew, LPG, Tanwydd Solid)
- Cefnogaeth gyda dyledion ariannol
- Cymorth/cyngor budd-daliadau
- Asesiadau llesiant
Ychwanegodd Gareth:
“Rydym wedi ymrwymo i drechu tlodi a helpu cymaint o bobl â phosibl i fyw’n dda yn eu cartrefi gan hefyd ymdrin â’r brys o ran yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl mewn argyfwng ac i helpu i leihau tlodi tanwydd.
Ein nod yn awr yw parhau i weithio gyda’n partneriaid a rhannu arfer da wrth i ni barhau ar ein taith i daclo tlodi yma yng Nghymru ac mae derbyn y wobr hon yn golygu llawer i ni.”