Skip to content

Yn ddiweddar mae ClwydAlyn wedi cael ei roi ar restr fer ar gyfer dwy wobr bwysig am eu datblygiadau newydd blaengar a’i ymrwymiad i safon yr adeiladu a thai mwy gwyrdd yng Ngogledd Cymru.

Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig yw’r gwobrau mwyaf yn y sector tai, gan ddathlu gwaith eithriadol landlordiaid sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i’w tenantiaid.

Rhoddwyd ClwydAlyn ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Prosiect Newid Hinsawdd y flwyddyn’ sy’n edrych ar ddulliau sy’n esiampl i bawb o gyflenwi cartrefi cynaliadwy newydd neu brosiectau sy’n gwella cynaliadwyedd prosiectau sy’n bodoli, ac ‘Adeiladwr Cartrefi’r flwyddyn’ sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y mae tai o safon wedi ei gael ar fywydau’r bobl sy’n byw ynddyn nhw.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau mor bwysig. Rydym yn arwain y ffordd wrth daclo problemau enbyd, ac mae’r ffaith ein bod ar y rhestr fer yn dangos y gwaith yr ydym yn ei wneud.

“Mae’r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw yn eiliad ddiffiniol ym mywydau llawer ohonom ac mae ClwydAlyn wedi ymrwymo i ymdrin â’r materion sydd wedi codi, fel yr argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd. Fel rhan o’n hymrwymiad, mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed ar ymatebion effeithiol, gan edrych ar ddulliau newydd a blaengar o adeiladu a chadwyni cyflenwi newydd i greu cartrefi heb garbon, a chefnogi economi Gogledd Cymru.

“Defnyddiwyd y dulliau hyn yn ein prosiect Glasdir lle mae 63 o gartrefi ffrâm bren yn cael eu hadeiladu, gan wthio ffiniau, a defnyddio technolegau newydd i adeiladu cartrefi o safon uchel, carbon isel iawn. Rhan o’r arloesedd yma yw gweithio’n glos gyda’n contractwr Williams Homes o’r Bala ar gynllun newydd ac arloesol sy’n cynnig cyfleoedd mentora i droseddwyr yn CEM Berwyn; blae mae ffatri wedi cael sefyudlu yn y carchar i gynhyrchu a paneli aradeiledd a waliau; gan sicrhau bod y rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar rhywbryd yn y dyfodol yn cael cyfle i symud i swyddi sefydlog.”
Dywedodd Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Cenhadaeth ClwydAlyn yw trechu tlodi, helpu ein holl breswylwyr i fyw’n dda yn eu cartrefi, gan hefyd ymdrin â’r brys o ran yr argyfwng hinsawdd. Mae prosiect Glasdir yn gwthio’r ffiniau wrth adeiladu cartrefi mwy gwyrdd ac mae’n amlygu’r cyfleoedd sy’n cael eu datblygu yn y diwydiant tai fydd yn helpu’r rhai sy’n profi tlodi, gan hefyd adeiladu cartrefi cynaliadwy.

Bydd enillwyr Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig yn cael eu cyhoeddi ar brynhawn dydd Gwener 25 Tachwedd yn The Point, Manceinion a’u cyhoeddi mewn darn ychwanegol arbennig ar gyfer y gwobrau yn y cylchgrawn Inside Housing.