Mae Tai ClwydAlyn yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu darpar breswylwyr i Ddiwrnod Agored Hafan Gwydirar 24 Gorffennaf. Mae croeso i ymwelwyr alw draw i’r digwyddiad yn Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst, rhwng 10am a 12pm neu rhwng 2pm a 4pm, i weld y cyfleusterau byw’n annibynnol gwych a chyfarfod y staff ymroddedig a chyfeillgar.
Gyda phrofiad helaeth o ddarparu cyfleusterau byw i bobl hŷn, mae Hafan Gwydir yn cynnig fflatiau o ansawdd uchel sydd wedi’u dylunio ar gyfer pob math o anghenion. Mae’r fflatiau ynni-effeithlon a chwaethus yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn helpu pobl i fyw’n annibynnol. Rydym wedi ystyried pob manylyn i greu man diogel, cyfleus a chartrefol, ynghyd â gerddi hardd sy’n cael eu cynnal.
Mae cyswllt cymdeithasol yn flaenoriaeth yn Hafan Gwydir. Dyluniwyd yr ardaloedd cyffredin i annog pobl i ryngweithio a gwneud ffrindiau newydd. Gall preswylwyr fwynhau amrywiaeth eang o gyfleusterau ar y safle, felly mae’n hawdd cymryd rhan ym mywyd y gymuned.
Saif Hafan Gwydir mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mae’n elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth gwych â’r prif drefi yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r amwynderau lleol, siopau, arosfannau bysiau, a gorsaf reilffordd o fewn cyrraedd hwylus ar droed, gan roi mynediad hawdd i’r gymuned ehangach.
- Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Gorffennaf 2024
- Lleoliad: Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst, LL26 0AR
- Amseroedd: 10am-12pm neu 2pm-4pm