Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi creu partneriaeth â chwmni diogelwch cartref blaenllaw Aico i greu llyfr newydd i blant sy’n helpu dysgwyr ifanc i ddeall gwersi hanfodol am ddiogelwch tân yn y cartref.
Wedi’i ysgrifennu ar ran ClwydAlyn ac Aico, bydd modd i breswylwyr ClwydAlyn lawrlwytho’r llyfr newydd Dragon’s Fiery Tale.
Mae’r stori yn dilyn hanes Spark, draig ifanc, a’r brodyr Arthur a Seth wrth iddynt ddysgu sut i gadw’n ddiogel rhag peryglon tân. Gan gyfuno darluniau lliwgar a stori afaelgar, mae Dragon’s Fiery Tale yn dysgu am ddiogelwch tân hanfodol mewn ffordd sy’n hawdd ei deall. Mae’r negeseuon allweddol yn cynnwys atal tân, pwysigrwydd profi larymau mwg yn rheolaidd, protocol argyfwng tân, cynllunio llwybr dianc, pwysigrwydd diffodd offer trydanol yn ystod y nos a llawer mwy.
Trwy ddilyn anturiaethau Spark, Arthur a Seth, mae plant yn cael eu hannog i rannu’r hyn maent wedi’i ddysgu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, gan helpu i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch tân yn y cartref i bob cenhedlaeth.
Syniad Tîm Cydymffurfiaeth a Diogelwch Adeiladu ClwydAlyn oedd y llyfr. Mae’r tîm yn rhoi llawer iawn o bwyslais ar gyfathrebu ac roedd yn awyddus i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gwybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel yn y cartref. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn y ras ar gyfer gwobr genedlaethol Housing Innovation, i ddathlu ei ‘Ddull Arloesol o Gyfathrebu â Thenantiaid’.
“Trwy roi’r llyfr hwn i deuluoedd ClwydAlyn, ein gobaith yw galluogi plant i chwarae rôl ym maes diogelwch tân yn eu cartrefi.”
"Mae ClwydAlyn yn adnabyddus am wthio ffiniau arloesedd i gadw eu preswylwyr yn ddiogel, ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych arall o hyn."
Trwy ymgysylltu â phlant ifanc, nod y fenter yw lleihau’r perygl o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â thân a hybu amgylcheddau byw mwy diogel.
Gall preswylwyr ClwydAlyn lawrlwytho Dragon’s Fiery Tale am ddim, felly bydd ar gael i filoedd o blant a theuluoedd ledled Gogledd Cymru.