Mae Tai ClwydAlyn ar y cyd â Chyngor Sir Powys yn datblygu 66 o fflatiau 1 a 2 y stafell wely hunangynhwysol ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn gyda gofal neu angen cefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.
Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle.
Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu yn fflatiau yn cael ei gyflawni mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw ei gyfoeth o nodweddion gwreiddiol. Yn sefyll yng nghanol y Trallwng, mae Neuadd Maldwyn yn agos ar droed i gyfleusterau a siopau lleol. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus. Test
Dangos fflat nawr ar agor.
Sut i Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried i rentu fflat yng nghynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn Neuadd Maldwyn, llenwch y ffurflen gais (gweler isod) a’i dychwelyd i ni cyn gynted â phosibl trwy’r manylion cyswllt canlynol:
Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, ClwydAlyn, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
E-bost: neuadd.maldwyn@clwydalyn.co.uk
Gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein hefyd; ond o brofiad ac adborth gan bobl eraill, rydym yn argymell llenwi copi papur.
Wrth ymgeisio ar-lein gofalwch bod gennych y Darllenydd Adobe neu PDF diweddaraf. Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei chadw ar eich cyfrifiadur, yna gallwch ychwanegu eich manylion / ei llenwi yn electronig. Ar ôl ei llenwi a’i chadw, anfonwch
hi at: help@clwydalyn.co.uk