Mae Osian Stephens, cyn-gynorthwyydd cegin o Fae Colwyn, wedi derbyn Bathodyn y Brenin uchel ei barch ym mharêd ymadael y Corfflu Brenhinol yn ddiweddar. Mae’r wobr uchel ei pharch yn cael ei rhoi i aelod gorau Sgwad y Brenin pan fydd yn cwblhau ei hyfforddiant fel Comando.
Mae Osian Stephens, 20 oed, a oedd yn arfer gweithio fel cynorthwyydd cegin gyda ClwydAlyn, wedi cwblhau’r cyfnod hyfforddiant llym 32 wythnos o hyd i ddod yn Comando. Roedd preswylwyr Cartref Nyrsio Merton Place, lle’r oedd Osian yn gweithio, wrth eu bodd i glywed y newyddion ei fod eisoes yn rhagori yn ei yrfa
newydd fel aelod o’r Morlu Brenhinol.
Roedd mam Osian, Ruth Stephens, sydd hefyd yn gweithio i ClwydAlyn yn Merton Place wedi cael modd i fyw ym mharêd ymadael ei mab a chafodd tipyn o sioc i glywed y byddai’r Brenin Charles yn cyflwyno Bathodyn y Brenin uchel ei fri i’w mab. Roedd hwn yn achlysur hanesyddol, wrth i’r Brenin, fel arweinydd seremonïol a Chadfridog Capten y Morlu Brenhinol ymweld â’r Ganolfan Hyfforddi Comandos yn Lympstone, Swydd Dyfnaint, ar gyfer seremoni ymadael 28 o recriwtiaid y 362fed Llu.
“Mae’r bathodyn yn destun clod enfawr ac mae’n cael ei gyflwyno i’r recriwt sy’n rhagori ym mhob disgyblaeth.”
“Roedd yn foment fawr i mi. Ac yn foment enfawr i’r llu hefyd.”
Dyma’r tro cyntaf ers 85 mlynedd i’r brenin gyflwyno Bathodyn y Brenin, symbol o ragoriaeth, i’r recriwt gorau. Mae’r anrhydedd hwn yn nodi dechrau gyrfa filwrol sy’n debygol o fod yn hir ac yn anrhydeddus i’r Môr-filwr Stephens.