Ddydd Mawrth 18 Ebrill ymwelodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths â cham diweddaraf y datblygiad 63 cartref yn Rhuthun.
Ymwelodd Lesley Griffiths AS â datblygiad Glasdir i gael golwg ar y cartrefi carbon isel diweddaraf.
Wedi ei ddechrau gyntaf yn 2021, mae cynllun Glasdir yn cynnwys cymysgedd o gartrefi sy’n cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau, tai pâr a thai unigol yn ogystal â byngalos wedi eu haddasu.
Gwelir y datblygiad fel un o gynlluniau adeiladu mwyaf blaengar eto ClwydAlyn fel rhan o’i raglen adeiladu carbon isel, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Williams Homes (Bala). Cwblhawyd cyfanswm o 25 o dai yn ddiweddar gyda’r tenantiaid yn hapus iawn o gael symud iddyn nhw.
Mae cam olaf y gwaith ar y safle, y trydydd gam, yn awr yn cael ei adeiladu a dylai gael ei gwblhau yn ystod haf 2023.
Dywedodd Clare Budden, Prif Weithredwraig ClwydAlyn:
“Roedd yn bleser croesawu Lesley Griffiths AS i ymweld â’r cartrefi newydd yma yn Glasdir.
“Mae’n gadarnhaol iawn gweld y safle’n trawsnewid yn lle sy’n cynnig cartrefi ecogyfeillgar y mae galw mawr amdanynt i bobl Sir Ddinbych.
“Cyflawnwyd hyn trwy gydweithio’n llwyddiannus â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Williams Homes (Bala). Roeddem ni i gyd yn rhannu’r weledigaeth o ddatblygiadau mwy gwyrdd yn defnyddio technoleg flaengar i leihau cynhyrchu Co2 wrth adeiladu ac wrth ddefnyddio’r cartref; ac mae’n adeiladu cartrefi sy’n effeithlon iawn o ran gwres; gan leihau’r costau i’n preswylwyr. (Blaenoriaeth allweddol yn ystod yr argyfwng costau byw).”
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y mae’r sector tai ac adeiladu yn esblygu, gyda phawb sydd yma heddiw’n cyfrannu at ein huchelgais werdd.”
Arweiniwyd y datblygiad gan ClwydAlyn, gyda’r cartrefi newydd yn darparu amodau iechyd a moethusrwydd rhagorol, gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni ar gyfer gwresogi ac oeri trwy ddefnyddio technolegau carbon isel. Mae hyn yn cynnwys fframiau pren modern iawn ac inswleiddio gyda ffibr pren i greu cartrefi sydd yn cadw eu gwres yn well, paneli photofoltaig solar wedi eu cysylltu â system storio batri sy’n trosi ynni thermal yn drydan. Gosodwyd pympiau gwres ffynhonnell aer fel system wresogi gynaliadwy, gan amsugno gwres o’r tu allan a’i drosglwyddo i du mewn y tai, gan gadw preswylwyr yn gynnes a chyfforddus a chyfnewidiwyd y bitwmen ar y ffordd gyda chynnyrch newydd a wnaed o boteli plastig gan gwmni lleol yn Rhuthun.
Ychwanegodd Clare Budden:
“Wrth weithio gydag amrywiaeth o gontractwyr ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi mabwysiadu adeiladu carbon isel fel ein ‘normal’ newydd. Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth ein helpu i leihau ôl troed carbon ein cartrefi ymhellach ac mae’n chwarae rhan allweddol yng ngweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ClwydAlyn, lle gosodwyd y nod o ymdrin â heriau newid hinsawdd.
“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni ar safle Glasdir i ClwydAlyn a’n partneriaid. Nid yn unig mae’n rhan sylweddol o’n rhaglen adeiladu tai, lle’r ydym yn anelu i gyflawni 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025; mae hefyd wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i’n galluogi i fynd ymhellach eto ar ein huchelgeisiau gwyrdd a pharhau i adeiladu tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”