Skip to content

Mae Merton Place yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cynnes a gofalgar i bobl hŷn y mae angen gofal preswyl, nyrsio a lliniarol arnynt..

Mae cartref gofal Merton Place mewn adeilad pwrpasol yn nhref Bae Colwyn ar arfordir Gogledd-orllewin Cymru. Mae’n cynnig cyfleusterau cartrefol, a staff sydd wedi ymroi i ddarparu gofal a chymorth 24 awr o’r safon uchaf. Dyma gartref yng ngwir ystyr y gair, lle gall y preswylwyr fyw’n gyfforddus a byw eu bywydau gorau, ni waeth beth yw eu hanghenion gofal a chymorth.

Mae ein hystafelloedd ymolchi golau, diogel a chyfforddus yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol. Mae ein cogyddion yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gwybod beth yw anghenion a hoff fwydydd ein preswylwyr ac maent yn paratoi prydau maethlon, o ansawdd uchel.

Mae Merton Place a’i erddi hardd mewn ardal breswyl dawel yng nghanol tref Bae Colwyn. Mae’r cartref o fewn cyrraedd hwylus iawn i ffordd ddeuol yr A55 ac yn agos at yr holl amwynderau lleol.

Rydym yn credu mewn hybu annibyniaeth a darparu cymorth yn ôl yr angen, gan gydnabod fod pawb yn wahanol a bod gan bawb ddiddordebau gwahanol. Mae’r cartref eang yn cynnwys lolfeydd ar bob llawr, felly gall preswylwyr gymdeithasu neu fwynhau eu cwmni eu hunain, yn ôl eu dewis.

Os ydych chi’n chwilio am dawelwch meddwl, cysur ac annibyniaeth gall Merton Place roi’r cyfan i chi. Mae’r datblygiad o dan ofal tîm staff profiadol ac rydym yn ddarparwr llety arbenigol sefydledig ac uchel ein parch.

Mae annibyniaeth, urddas a dewis wrth galon popeth rydym yn ei wneud.

Cartref gofal mewn adeilad pwrpasol
Cartref gofal mewn adeilad pwrpasol gyda chyfleusterau en-suite, lolfa a chegin fach ar bob llawr.
Ein Gofal
Mae gofal a chymorth 24 awr a’n tîm nyrsio medrus yn sicrhau y gallwn fodloni anghenion pobl wrth iddynt newid.
Gweithgareddau a Digwyddiadau
Mae gennym Gydlynydd Gweithgareddau sy’n cynllunio pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan roi’r dewis i breswylwyr gymryd rhan a chymdeithasu os ydynt yn dymuno.

Fideo Croeso i Merton Place

Cyswllt