Skip to content

Rachel King portrait picture
Rachel King
Member of the Resident Committee

Rachel is a Business Manager at Maximus UK, dedicated to breaking down employment barriers and facilitating sustainable employment. Covering North Wales on

behalf of the DWP, our mission is to assist individuals in finding employment, accessing support, and fostering happiness and success in their workplace and community.  Rachel joined the Resident Committee in September 2023

Read my bio
Andrew O’Brien
Pwyllgor Preswylwyr

Ymunodd â’r Lluoedd Arfog yn 1985 ac roedd yn Hyfforddwr Arfau am 7 mlynedd, bu’n rhedeg busnes tirlunio llwyddiannus am 20 mlynedd. Bu’n gwirfoddoli i Gadetiaid y Fyddin fel Hyfforddwr Milwrol am 2 flynedd.
Ymunodd â ClwydAlyn Ionawr 2022. Mae gennyf gymwysterau/sgiliau arwain, rheoli a dirprwyo.

Read my bio
Ashley Knight
Ashley Knight
Pwyllgor Preswylwyr

Mae Ashley’n gweithio ar ochr cynnal a chadw ClwydAlyn fel glanhawr/ glanhawr ffenestri. Mae wedi gweithio i ClwydAlyn ers 6 mlynedd. Mae gan Ashley bartner a phedwar o blant ac ar hyn o bryd mae’n byw mewn Cynllun Rhentu i Brynu. Mae’n mwynhau chwarae pêl-droed yn ei amser hamdden a bod y fersiwn orau ohono ei hun.

Read my bio
David Perkins
David Perkins
Pwyllgor Preswylwyr

Mae David wedi bod yn breswyliwr ClwydAlyn ers 14 mlynedd ar ôl ymddeol o’i waith. Bu’n cymryd diddordeb yn ei gymuned a saith mlynedd yn ôl, daeth yn Gadeirydd y Grŵp Ymbarél Tai Cysgodol, ac mae’n ceisio cymryd rhan weithredol yn y gymuned.

Read my bio
Carol Quinn
Pwyllgor Preswylwyr

Mae Carol wedi bod yn breswyliwr ClwydAlyn ers 13 mlynedd a chyn ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr, byddai’n mynychu cyfarfodydd Preswylwyr i gynrychioli Stad Ffordd Helygain. Mae Carol yn mwynhau dysgu o safbwynt Preswyliwr sut y mae eiddo sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd yn ymdrin â phroblemau amgylcheddol a sut y mae ClwydAlyn yn helpu i ymdrin â thlodi tanwydd a bwyd.

Read my bio
Brian Strefford
Brian Strefford
Aelod Bwrdd, Is-gadeirydd Pwyllgor Preswylwyr, Pwyllgor Eiddo

Mae Brian wedi bod â diddordeb mewn Tai Cymdeithasol ers blynyddoedd: roedd ei rieni’n byw mewn tŷ cyngor am nifer o flynyddoedd dedwydd. Dychwelodd i Dai Cymdeithasol dros 25 mlynedd yn ôl pan ddaeth yn denant i ClwydAlyn.

Cafodd Brian yrfa amrywiol, o’r diwydiant olew, y fasnach drwyddedig, gwasanaethau ariannol a TG, gan gael cyfnod yn y nawdegau cynnar fel gwirfoddolwr i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Dysgodd Brian lawer o sgiliau yn ystod ei daith, gan gynnwys y gallu i wrando a siarad â phobl. Brian yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Preswylwyr ac mae hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Eiddo.

Read my bio
Peter Smith-Hughes portrait picture
Peter Smith-Hughes
Aelod o’r Bwrdd

Yn ei swydd flaenorol roedd Peter yn gweithio fel Uwch Reolwr yn ymwneud â Datblygu Adwerthu. Roedd y swydd yn golygu cael a datblygu safleoedd, gan ddod â’r siop newydd i sefyllfa lle mae ar fin agor. Yn fwy diweddar, daeth yn Rheolwr Ysbyty Preifat, yn gyfrifol am gyllidebau, staff a chyfrifyddu.
Cred Peter y bydd y profiad yma’n ddefnyddiol gan y gall weld golwg gytbwys o faterion amrywiol ac mae’n gallu gweld y darlun mawr, gan gynnig prosesau meddwl rhesymegol. Dymuna Peter wella bywydau tenantiaid.

Read my bio

Mae’r Bwrdd yn cynnwys un ar ddeg o Aelodau o’r Bwrdd a dau o gynrychiolwyr y preswylwyr sy’n Aelodau o’r Bwrdd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bod deufis ac mae nifer o Bwyllgorau hefyd sydd ag awdurdod penodol wedi ei ddirprwyo iddynt ac yn rhoi adroddiad i’r Bwrdd am eu gweithgareddau.

Fel Landlord yng Nghymru mae’n ofynnol i ni gadw at y Cod Llywodraethu neu esbonio pam nad ydym yn gwneud hynny. Mae’r cod yn cynnwys saith egwyddor llywodraethu da, yn cynnwys; Diben Sefydliadol; Arweinyddiaeth; Didwylledd; Gwneud Penderfyniadau, Risg a Rheoli; Effeithiolrwydd y Bwrdd; Amrywiaeth a Bod yn Agored ac Atebolrwydd. Cynhaliwyd adolygiad o’r modd yr ydym yn cydymffurfio â’r cod a chredwn ein bod yn cydymffurfio.

Cyfrifoldeb y Tîm Gweithredol a’r Uwch Reolwyr yw rhedeg ClwydAlyn o ddydd i ddydd.

Y Pwyllgor Sicrhau
Y Pwyllgor Sicrhau sy’n rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am effeithiolrwydd system reoli fewnol y Grŵp (sy’n cynnwys rheoli risg, rheolaeth weithredol a chydymffurfio), Archwilio mewnol ac allanol, iechyd a diogelwch, adrodd ariannol a chydymffurfio ag Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r Pwyllgor Eiddo
Mae’r Pwyllgor Eiddo yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd am ansawdd, gwerth am arian a pherfformiad y buddsoddiad mewn adeiladu cartrefi newydd a chynnal y cartrefi sy’n bodoli.
Mae’r Pwyllgor Pobl
Mae’r Pwyllgor Pobl yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod yr hinsawdd a’r diwylliant sefydliadol yn gweithredu a datblygu yn unol â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Yn ychwanegol, mae’r pwyllgor yn sicrhau bod ClwydAlyn yn gwobrwyo, ymgysylltu, datblygu a denu a chadw’r bobl orau i ddiwallu ein dibenion yn effeithiol a bod iechyd a llesiant y staff, bwrdd, aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn cael eu deall ac yn cael gofal.
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr
Mae’r Pwyllgor Preswylwyr yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd o ymgysylltu â Phreswylwyr, craffu gan Breswylwyr, perfformiad ar wasanaethau i Breswylwyr a dylanwad Preswylwyr ar wasanaethau.

Diffinnir Craffu gan Breswylwyr fel mabwysiadu dull sy’n rhoi’r pwyslais ar y preswylwyr wrth roi gwasanaethau sy’n rhoi manteision i’r tenantiaid, preswylwyr a’r cymunedau. Dylai craffu arwain at wasanaeth sy’n gwella’n barhaus; trwy fod tenantiaid a phreswylwyr yn ei siapio ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau gan ClwydAlyn.