Cafodd grŵp o blant o ysgol gynradd leol eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i enwi ffordd ar ddatblygiad tai a fydd yn cynnig sylfaen gadarn i 77 o deuluoedd yn Llandudno.
Fe wnaeth ClwydAlyn, darparwr tai fforddiadwy yng ngogledd Cymru, wahodd grŵp o blant ysgol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gyffrous ac enwi ffordd newydd. Gofynnwyd i ddisgyblion Ysgol Tudno, o flynyddoedd un i chwech, feddwl am enwau ar gyfer ffordd ar y datblygiad newydd yn Builder Street, Llandudno. Gan weithio’n agos gyda chymuned yr ysgol, aeth ClwydAlyn a’r contractwr K&C Construction Ltd ati i annog y disgyblion i greu darn o hanes ac ymfalchïo yn eu hardal leol. Rhoddwyd gwybodaeth i’r plant am orffennol yr ardal a’r cartrefi newydd a fydd yn cael eu hadeiladu. Yna gofynnwyd iddynt feddwl am enwau ffyrdd a fyddai’n cynrychioli’r ardal a’r gymuned.
Derbyniwyd llawer o gynigion gwych, ac roedd yn anodd iawn dewis enillydd. Ar ôl llawer o drafod cyhoeddwyd yr enw buddugol, a awgrymwyd gan Dewi Jenkins disgybl blwyddyn 3, sef Llys yr Enfys!
Diolch i Dewi am ei awgrym buddugol, derbyniodd dystysgrif a thalebau anrheg yn wobr. Daeth John Jones, Rheolwr Datblygu’r Prosiect ar ran ClwydAlyn a Paul Russell, Rheolwr Prosiect K&C Construction Ltd i’r ysgol i gyflwyno’r wobr a sgwrsio gyda’r disgyblion am y safle a’r gwaith adeiladu.
Mae enfys yn symbol o obaith ar draws y byd. Mae’r enw ffordd a awgrymwyd gan Dewi yn crynhoi’n wych y teimlad o obaith ac optimistiaeth sydd gan ClwydAlyn ar gyfer dyfodol y teuluoedd a fydd yn symud i mewn i’r cartrefi hyn.
Dathlu Treftadaeth Leol
I ddathlu treftadaeth leol yr ardal, mae dwy stryd arall yn natblygiad Builder Street wedi cael eu henwi ar ôl cymeriadau lleol sydd wedi siapio hanes cyfoethog y gymuned.
Enwyd Clos Glyn Griffiths ar ôl y peilot a’r sarsiant ifanc Glyn Griffiths o Landudno. Enillodd y Fedal Hedfan Nodedig pan oedd yn 24 oed, a hynny am ei wasanaeth dewr yn hedfan awyrennau Hawker Hurricanes yn Sgwadron Rhif 17 yn ystod Brwydr Prydain yn 1940. Y Cynghorydd Angela O’ Grady gynigiodd y dylid enwi’r stryd ar ôl y Sarsiant Griffiths i anrhydeddu ei ymdrechion dewr yn y rhyfel.
Mae’r bloc fflatiau ar y datblygiad wedi cael ei enwi i anrhydeddu Ymddiriedolaeth Elusennol Rosa Hovey a’r Ymddiriedolaeth Dai. Sefydlwyd yr elusen yn 1933 gan Ethel Hovey, cymeriad arloesol ym maes addysg a hawliau lles merched yng ngogledd Cymru. Enwyd yr elusen ar ôl ei chwaer Rosa. Mae bloc fflatiau newydd Llys Rosa Hovey yn deyrnged i waddol yr Ymddiriedolaeth ac yn symbol o’r cartrefi diogel, fforddiadwy a’r cymunedau lleol, cryf sy’n cael eu hadeiladu.
Cwblhau’r Datblygiad
Bydd y 77 o gartrefi o ansawdd uchel ac effeithlon o ran ynni yn cynnig cartrefi sefydlog i deuluoedd lleol, yn ogystal â darpariaeth byw’n annibynnol i bobl 55 oed a throsodd. Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau fesul cam yn 2026, pan gaiff y ffyrdd eu trosglwyddo.
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, ewch i: Cartrefi Newydd i Deuluoedd yn Builder Street, Llandudno – ClwydAlyn