Skip to content

Yn ddiweddar nododd plant ysgol gynradd ar Ynys Môn ddechrau’r gwaith ar brosiect £10.4m, a fydd yn gweld datblygu 54 o gartrefi mewn pentref poblogaidd ar Ynys Môn.

Ymwelodd plant o Ysgol Gymuned y Fali â safle Melin/Mart y Fali ddydd Gwener diwethaf (27 Ionawr), ynghyd ag aelodau lleol, y Cynghorwyr Ken Taylor a Gwilym O Jones, yn ogystal â staff o Gymdeithas Tai ClwydAlyn a Williams Homes.

Dywedodd Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn, Penelope Storr:

“Roedd yn wych nodi dechrau’r gwaith ym Mart Fali gyda disgyblion o’r ysgol gynradd leol.

“Mae ymgysylltiad cymunedol yn rhan hanfodol o’n holl ddatblygiadau, ac rydym yn hapus i groesawu rhai o breswylwyr ieuengaf y Fali i’r safle ac arwain ein seremoni torri’r dywarchen.

“Bydd Datblygiad Melin/ Mart y Fali yn ymdrin ag angen allweddol am dai fforddiadwy i’r rhai sy’n byw a gweithio yn yr ardal yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol gyda chyfleoedd cyflogaeth, gan gynnig etifeddiaeth barhaus i’r Ynys.”

Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau effeithlonrwydd ynni uchel gyda strwythur ffrâm bren a lefel uchel o insiwleiddiad, gan ddarparu cartrefi carbon isel effeithlon; gan sicrhau bod angen cyn lleied o ynni ag sy’n bosibl i gadw’r cartrefi’n gynnes, a allai leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd lawer mwy gwyrdd a glân o fyw.

Bydd y cwmni adeiladu o’r Bala, Williams Homes, yn cyflawni’r gwaith adeiladu, gan ddefnyddio eu harbenigedd eang o ran cyflawni cartrefi effeithlon o ran ynni a charbon gan ddefnyddio technolegau cynaliadwy.

Dywedodd Penny Lofts, Rheolwr Tir a Chaffael Williams Homes:

“Mae Williams Homes yn hapus unwaith eto o fod yn gweithio gyda ClwydAlyn i gyflawni’r prosiect gwych hwn, a fydd yn cynnig tai fforddiadwy i breswylwyr lleol. Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio yn y gymuned, er mwyn gallu cynnig sicrwydd gwaith i lawer o grefftwyr a chyflenwyr lleol.

“Ers dechrau ar y datblygiad rydym wedi llunio perthynas lwyddiannus gydag Ysgol Gymuned y Fali, gan ymweld â disgyblion blwyddyn chwech i drafod gyrfaoedd yn y sector adeiladu yn ogystal ag i drefnu gweithgareddau adeiladu hwyliog.

“Trwy groesawu’r disgyblion i’r seremoni torri’r dywarchen, rydym wedi rhoi dealltwriaeth iddynt o’r camau gwahanol wrth adeiladu cartref a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’r datblygiad yma. Ein cam nesaf hefo’r plant fydd gweithio hefo nhw a’r cyngor cymuned i gytuno ar enw ar gyfer y safle ar ôl ei orffen.”

“Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi newydd yma yn y Fali. Mae’r Cyngor yn hapus i gefnogi’r prosiect hwn a fydd yn darparu cartrefi mawr eu hangen ar gyfer teuluoedd Ynys Môn.

"Mae'r rhain yn eiddo modern sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac yn garbon-gyfeillgar a ddylai helpu perchnogion tai ar adegau o gostau tanwydd uchel."

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i symud y prosiect tai gwych yma yn ei flaen.”
Cynghorydd Llinos Medi
Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.