Mae Llys Raddington yn gynllun Byw’n Annibynnol newydd i Bobl Hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal hyblyg ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.
Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben gan gynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal, cefnogaeth a chymorth i hybu eich annibyniaeth. Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ond eto’n amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.
Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.
Mae Cynllun Byw’n Annibynnol i Bobl Hŷn Llys Raddington mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y Fflint, gyda’r cyfleusterau lleol a’r siopau o fewn cyrraedd wrth gerdded. Mae’r prif gysylltiadau trafnidiaeth yn hawdd eu cyrraedd, gyda gorsaf drên ac arosfannau bws yn agos yng nghanol y dref. Mae’r dref ar briffordd yr arfordir, ac yn agos at yr A55 i roi cyswllt rhwydd â gweddill Gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.





