Fflatiau wedi eu hadeiladu i’r diben yw Cynlluniau Prydlesu i bobl hŷn, wedi eu dylunio yn benodol i ddiwallu anghenion y rhai dros 55 oed, a’u bwriad yw cynnig llety cost isel i’r prydleswr a ffordd o fyw hollol annibynnol. Gelwir y cynlluniau hyn yn Gynlluniau Prydlesu i’r Henoed (LSE).
Gydag amrywiaeth mawr o nodweddion integredig sy’n cynnwys manteision fel cefnogaeth trwy larwm, mae Cynlluniau prydlesu i’r henoed yn cynnig yr holl gysur ac annibyniaeth o fod yn berchennog-feddiannwr, ond gyda’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl o wybod y bydd help wrth law bob amser – os bydd ei angen.
Gwerthir pob fflat ‘ar brydles’ a, gan ddibynnu ar y cynllun, naill ai mae prydles newydd am 60 mlynedd yn cael ei rhoi neu mae’r brydles bresennol yn cael ei rhoi i’r perchennog newydd. Mae’r rhydd-ddaliad yn parhau yn nwylo ClwydAlyn ac rydym yn cynnal yr adeilad a’r holl ardaloedd cymunedol.
Yn ychwanegol, mae Tâl Gwasanaeth Misol hefyd yn daladwy, i dalu costau gwaith trwsio o’r fath a gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad, glanhau ffenestri, goleuadau, y system larwm, a chynnal a chadw cyffredinol ar yr eiddo a’r tiroedd.
Pwy sy’n gyfrifol am waith trwsio a chynnal a chadw?
Prydleswyr sy’n gyfrifol am yr holl waith trwsio, cynnal a chadw ac addurno yn eu fflat.
Mae ClwydAlyn – ar ran y Prydleswyr – yn gwneud yr holl waith trwsio allanol, cynnal a chadw, ailaddurno, glanhau ffenestri, cynnal a chadw’r tiroedd a’r ardaloedd cymunedol, ffyrdd a goleuadau, ‘cynllun cymydog da’ (os yn berthnasol) a’r system larwm ‘Care Line’ – ac mae eu costau’n cael eu talu trwy’r Tâl Gwasanaeth misol.
Mae’r gwasanaeth llinell gofal 24 awr y dydd wedi ei osod ym mhob fflat i roi mwy o dawelwch meddwl yn awr ac at y dyfodol bod help ond galwad ffôn i ffwrdd petai ei angen.
Mae’r cynllun o fewn pellter cerdded i’r siopau a chyfleusterau. Mae lifft i bob llawr, gardd allanol fechan ac ardaloedd eistedd cymunedol mawr i ymlacio a chymdeithasu.
Mae’n cynnig 12 o fflatiau hunangynhwysol ar y llawr cyntaf a’r llawr gwaelod, y cyfan gyda’u drws ffrynt eu hunain yn syth i’r ardal gymunedol, man parcio a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law os bydd ei angen rŵan neu yn y dyfodol.
Mae gan y cynllun hwn ardd fawr a gosodwyd system llinell gofal 24 awr y dydd ym mhob fflat i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Mae gan bob fflat ei ddrws ffrynt ei hun a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Mynediad trwy lifft i bob llawr, parcio oddi ar y ffordd a system llinell gofal 24 awr y dydd i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Mae’r cynllun yn agos at y stryd fawr ac yn cael budd o erddi cymunedol caeedig mawr, parcio a lifft i’r holl loriau.
Gosodwyd llinell gofal 24 awr y dydd ym mhob fflat i roi mwy o dawelwch meddwl yn awr ac at y dyfodol bod help ond galwad ffôn i ffwrdd petai ei angen.
8 o fflatiau hunangynhwysol a adeiladwyd i’r diben, gyda pharcio oddi ar y safle a gardd gymunedol dawel yn y cefn.
Mae’r holl fflatiau yn manteisio ar systemau llinell gofal 24 awr i roi tawelwch meddwl ychwanegol bod help wrth law, petai arnoch ei angen rwan neu yn y dyfodol.
Mae’r cynllun hefyd yn manteisio ar lifft i bob llawr, ystafell olchi dillad, cegin gymunedol ac ystafell gyfarfod, fflat i wahoddedigion i deulu aros pan fyddant yn ymweld, parcio oddi ar y ffordd a rheolwr rhan-amser ar y safle, ar gael i’ch cynorthwyo gydag unrhyw beth allech chi fod ei angen wrth fyw yn y cynllun.
Cwestiynau Cyffredin
Fflatiau a ddyluniwyd i bobl dros 55 oed yw Cynllun Prydlesu i Bobl Hŷn. Mae’n dibynnu ar y brydles a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun. Sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles safonol 99 mlynedd, sy’n gorfod cael ei bennu wrth ei werthu i berchennog newydd a sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles 60 mlynedd sy’n gorfod cael ei hadnewyddu bob tro
Maent yn cael eu prynu ar sail prydles. Mae gan rai cynlluniau brydles 60 mlynedd newydd ar bob gwerthiant, mae rhai’n trosglwyddo’r brydles wreiddiol ac mae’r tymor sy’n weddill ar y brydles honno yn amrywio gan ddibynnu ar y cynllun a’r fflat unigol.
Mae rhagor o fanylion am bob cynllun ar gael gan y Tîm Cartrefi Fforddiadwy.
Ydych, rydych yn gyfrifol am gynnal a chadw, gwaith trwsio ac addurno yn eich fflat.
Bydd ClwydAlyn, ar ran y prydleswyr, yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw, trwsio ac addurno i’r adeilad a’r ardaloedd cymunedol a bydd cost y gwaith hwn yn cael ei dalu trwy’r tâl gwasanaeth misol.
Mae pob cynllun yn talu tâl gwasanaeth misol. Mae hwn yn talu am waith trwsio, cynnal a chadw ac addurno i’r adeilad a’r ardaloedd cymunedol, yn ogystal ag eitemau eraill fel ymrwymiadau cydymffurfio ar gyfer lifftiau, larymau tân, systemau llinell gofal, systemau mynediad ac ati.
Nid oes gan y mwyafrif unrhyw rent i’w dalu, gan fod y rhan fwyaf o fflatiau’n cael eu gwerthu 100% ar brydles.
Mae’n dibynnu ar y brydles a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer y cynllun. Sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles safonol 99 mlynedd, sy’n gorfod cael ei bennu wrth ei werthu i berchennog newydd a sefydlwyd rhai cynlluniau gyda phrydles 60 mlynedd sy’n gorfod cael ei hadnewyddu bob tro.
Gallwch ymestyn eich prydles ar unrhyw amser, sy’n ei wneud yn fwy deniadol pan fyddwch am werthu, gan y gall fod yn anodd cael morgais ar brydles fer.
Cysylltwch â’r Tîm Cartrefi Fforddiadwy, os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ymestyn eich prydles.