Housing Perks
Rydym wedi lansio ap Housing Perks at ddefnydd ein preswylwyr. Gallwch arbed arian tra’n siopa ar-lein ac ar y stryd fawr.
Mae ap Housing Perks am ddim i breswylwyr ClwydAlyn, ac mae’n cynnig gostyngiadau mewn dros 100 o archfarchnadoedd, siopau’r stryd fawr ar ar-lein. Mae gostyngiadau o hyd at 18% ar gael yn ASDA, B&M, Sainsburys, Morrisons, Primark, Argos, TK Maxx a llawer mwy!
Gallwch lawrlwytho’r ap yma neu drwy chwilio am “Housing Perks” yn Apple App Store neu Google Play Store. Byddwch angen eich rhif cyfeirnod tenantiaeth unigryw wrth law. Mae’r rhif cyfeirnod ar gael ar gyfriflen rhent ddiweddar, MyClwydAlyn neu drwy e-bostio help@clwydalyn.co.uk
Mae’r fideo yma yn dangos sut mae’r ap yn gweithio
Housing Perks Manteision Ap