Mae Hafan Cefni yn gynllun Byw’n Annibynnol newydd i bobl hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal hyblyg 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.
Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben gan gynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal, cefnogaeth a chymorth hyblyg i hybu annibyniaeth. Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.
Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.
Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Hafan Cefni ar hen safle Ysgol y Bont ar draws y ffordd o Aldi a Lidl. Mae Hafan Cefni mewn lleoliad cyfleus yng nghanol Llangefni, gyda’r cyfleusterau lleol a’r siopau o fewn cyrraedd wrth gerdded. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth o fewn cyrraedd hawdd.





