Datgelwyd enillwyr Gwobrau Cymydog Da ClwydAlyn, sy’n dathlu’r rhai sy’n mynd y filltir ychwanegol a gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol, heddiw, dydd Gwener 21 Gorffennaf.
Mae’r gwobrau’n dathlu pobl sy’n rhoi eu hamser i helpu i wella ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru trwy eu gwneud yn gynhwysol a chroesawus.
Roedd gwobr 1af, 2il a 3ydd ar gael ym mhob awdurdod lleol y mae gan ClwydAlyn gartrefi ynddynt: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam a Phowys, gan roi cyfle i bawb enwebu’r rhai sydd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn yn eu cymunedau.
Enillwyr Gwobrau Cymydog Da 2023 yw:
Ynys Môn
- 1arAylwin Shaw
- 2ilDyfrig Morris Williams
- 3yddKirsty Edwards
Conwy
- 1afJohn Kelly
- 2ilGraham Fantom
- Cydradd 3ydd– Catherine Watkins / Gladys Hughes
Sir y Fflint
- 1afSusan Peers
- 2ilHoll Breswylwyr Nant Mawr Court
- 3yddAva Davies
Gwynedd
- 1afMr Wladyslaw Solek
- 2ilPauline Merchant
Wrecsam
- 1arEluned Plack
- 2ilAnthony Williams a Sara Douglas
- 3yddDavid Perkins
Cyflwynwyd talebau i’r enillwyr gwerth hyd at £100 (2il £75 a 3ydd £50) i ddiolch iddynt am fod yn gymdogion mor dda a mynd y filltir ychwanegol.
“Mae ein strategaeth yn ymwneud â’n Cwsmeriaid, ein Cydweithwyr a’n Cymunedau yn llwyr. Mae ein Cwsmeriaid sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau pwysig yma i gyd yn cyfrannu llawer iawn at ein cymunedau ac at Ogledd Cymru. Dyna yw’r wobr hon. Mwyaf yn y byd y byddwn yn gofalu am ein gilydd gorau yn y byd fydd ein cymunedau.
Da iawn i bawb a enwebwyd a phawb sy’n gwneud pethau gwych yn eu cymunedau heb i neb sylwi. Rydym oll yn llunio cymunedau os byddwn yn dal ati i fod yn gymdogion da.”