Mae Gladys Mobbs, 94, yn ymgorffori caredigrwydd ac ymroddiad. Mae hi’n treulio oriau maith bob dydd yn gwau dillad i fabanod a phlant bach, i godi arian ar gyfer elusennau lleol.
Mae Gladys Mobbs, aelod annwyl o’i chymuned, yn byw yng nghynllun byw’n annibynnol Maes y Dderwen, Wrecsam. Mae hi’n adnabyddus am ei brwdfrydedd heintus ac mae bob amser yng nghanol y gweithgareddau, o grwpiau crefft i foreau coffi. Ond ei chariad mawr yw gwau; celfyddyd y mae hi’n ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol iawn i roi rhywbeth nôl.
Cafodd Gladys ei dysgu i wau gan ei mam pan oedd yn blentyn ac mae ganddi gasgliad mawr o batrymau. Dechreuodd wau i elusennau ar ôl colli ei gŵr Robert Edward Mobbs i Glefyd Niwronau Echddygol (MND). Ar yr adeg anodd hon, derbyniodd gymorth gan Gangen Gogledd-ddwyrain Cymru o Gymdeithas MND. Gyda chefnogaeth yr elusen, cafodd Gladys ei hannog i ailafael yn ei nodwyddau gwau unwaith yn rhagor. Ar y dechrau, roedd yn cyfrannu’r rhan fwyaf o’i gwaith i Gymdeithas MND. Ers hynny, mae hi wedi gwau eitemau ar gyfer elusennau eraill gan gynnwys SHARE yn yr Wyddgrug a Hosbis Tŷ’r Eos.
Mae Gladys yn giamstar ar y gweill – gall wau o leiaf un eitem y diwrnod! O gardigans a rompyrs cynnes i hetiau, trowsus a siwtiau ar gyfer babanod a phlant ifanc, mae llawer iawn o bobl bellach yn berchen ar ei chreadigaethau. Ac mae pob pwyth yn cael ei greu â theimlad o bwrpas.
Mae stori Gladys yn dangos sut gellir troi diddordebau yn weithredoedd o garedigrwydd. Trwy ddal ati i wau mae hi’n cynhyrchu incwm i elusennau ac yn rhannu ei doniau gwau gwych â’r gymuned leol.