Skip to content

Rydym yn gwybod fod ardaloedd eang ledled Conwy wedi cael eu heffeithio gan y diffyg cyflenwad dŵr ar ôl i beipen ddŵr fyrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd.

Os nad oes gennych ddŵr ar hyn o bryd, mae ClwydAlyn yn gweithio i gasglu cynifer o boteli dŵr â phosibl i’w dosbarthu i’n Cynlluniau Byw’n Annibynnol sydd heb ddŵr, a byddwn yn sefydlu canolfannau lle gall preswylwyr sy’n cael trafferth dod o hyd i boteli dŵr alw heibio i gasglu cyflenwadau a fydd o gymorth dros dro tra bod Dŵr Cymru yn dal i weithio i drwsio’r broblem.

Cadwch lygad am ragor o fanylion ar ein sianeli Facebook ac X.

 

Mae’r broblem yn effeithio ar tua 30,000 o gartrefi ar hyn o bryd, ond mae’n debygol y bydd mwy o bobl yn colli eu cyflenwad dŵr. Felly os ydych chi’n byw yng Nghonwy a’r ardal ac mae gennych ddŵr ar hyn o bryd, dylech lenwi tecelli, sinciau ac unrhyw gynwysyddion eraill sydd gennych rhag ofn.

 

Os nad oes gennych gyflenwad dŵr yn eich cartref, cadwch lygad ar wefan Dŵr Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf; mae’r wefan Yn Eich Ardal hefyd yn rhoi gwybodaeth fyw – https://inyourarea.digdat.co.uk/dwrcymru?loc=ll30+9yz

 

Efallai bydd yr wybodaeth a’r cyngor canlynol yn ddefnyddiol hefyd os nad oes gennych ddŵr:

  • Os ydych chi wedi bod yn agor eich tapiau i weld a yw’r dŵr yn rhedeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu diffodd wedyn, rhag ofn y bydd y cyflenwad yn dychwelyd pan fyddwch allan o’ch cartref.
  • O ran gwres, ni fydd boeleri combi yn cael eu heffethio, dim ond dŵr poeth.
  • Bydd eich toiled yn fflysio unwaith yn unig.

 

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau a heriau, rydym bob amser yma i helpu, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.