Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Melyn rhwng dydd Iau, 5 Rhagfyr, a dydd Sul, 7 Rhagfyr. Mae rhybudd am law trwm a gwynt ledled Cymru: Swyddfa Tywydd
Mae ein holl wasanaethau ar agor ac yn gweithredu mor effeithiol â phosibl, er gwaethaf yr amodau tywydd anodd. Dros y penwythnos mae’n bosibl y byddwn yn ymateb i nifer cynyddol o achosion brys, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni roi sylw i’r gwaith hwn.
Mae ein timau cynnal yn cymryd gofal ychwanegol wrth yrru rhwng apwyntiadau, ac yn dibynnu ar nifer yr achosion brys y byddwn yn ymateb iddynt, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i’ch cyrraedd.
Ar gyfer achosion brys, ffoniwch ni ar 0800 183 5757.
Ar gyfer unrhyw geisiadau neu waith trwsio nad ydynt yn achosion brys, mewngofnodwch i FyClwydAlyn neu e-bostiwch help@clwydalyn.co.uk.