Skip to content

Mae disgyblion cynradd Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth wedi cael cyfle i enwi stad dai leol newydd. Enw’r datblygiad o 41 o gartrefi, sy’n cael ei adeiladu ar ran Grŵp Cynefin a ClwydAlyn gan Williams Homes Bala Ltd, fydd Maes Deudraeth.

Gweithiodd Williams Homes gyda Chyngor Tref Penrhyndeudraeth i gynnal y gystadleuaeth ysgol i enwi’r datblygiad newydd. Ar ôl ystyried yr holl awgrymiadau gwych, dewiswyd yr enillydd, sef “Maes Deudraeth”. Llongyfarchiadau i Jac sydd wedi ennill taleb anrheg am ei gynnig arbennig.

Mae Grŵp Cynefin, ClwydAlyn a Williams Homes wedi bod yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o adeiladwyr hefyd drwy gynnal digwyddiad addysgol cyffrous yn yr ysgol.

Fel rhan o’u hymrwymiad i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, mae’r partneriaid sy’n rhan o brosiectau adeiladu o’r fath yn rhoi rhywbeth yn ôl  i’r gymuned ar ffurf ‘prosiectau gwerth cymdeithasol’. Y nod yw cyfoethogi, grymuso a chefnogi cymunedau mewn ffyrdd gwahanol, fel helpu pobl i ddod o hyd i waith, mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol, cefnogi preswylwyr y mae tlodi tanwydd yn effeithio arnynt, neu ddarparu mynediad i fwyd maethlon.

Yn unol â’r gwerthoedd hyn, fe wnaeth Penny Lofts, Rheolwr Tir a Chaffael Williams Homes, ymweld â’r ysgol i ddarparu sesiynau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) rhyngweithiol. Gyda chymorth Penny, cafodd disgyblion Blynyddoedd 3–6 gyfle i weld sut mae STEM yn siapio’r broses o adeiladu cartrefi diogel a chynaliadwy. Roedd cyfle iddynt ddysgu sut mae pobl broffesiynol – fel penseiri, peirianwyr, adeiladwyr a rheolwyr prosiect – yn gweithio gyda’i gilydd i greu cymunedau diogel a chynaliadwy.

Un o’r gweithgareddau mwyaf difyr oedd yr her adeiladu tîm lle defnyddiodd y disgyblion hoelbrennau a bandiau rwber i adeiladu’r tŵr uchaf posibl. Gan weithio gyda’i gilydd, cafodd y dysgwyr ifanc gyfle i roi sgiliau’r byd real ar waith a chydweithio, datrys problemau a chynllunio – cyflwyniad perffaith i’r sgiliau y mae eu hangen yn y diwydiant adeiladu. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad yr holl bartneriaid i ymgysylltu â’r gymuned a meithrin sgiliau ar gyfer llwybrau gyrfa yn y dyfodol.

Roedd yn hyfryd gweld brwdfrydedd a chreadigrwydd disgyblion Ysgol Cefn Coch. Roedd y gweithdai hyn nid yn unig yn gyflwyniad hwyliog ac ymarferol i STEM, roeddent hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio tuag at nod cyffredin – yn union fel y broses o adeiladu tŷ. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o brosiect sy’n cysylltu â’r gymuned leol ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Penny Lofts
Rheolwr Tir a Chaffael Williams Homes

Yn ôl Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu, Grŵp Cynefin: “Mae cynnwys y gymuned, yn enwedig y genhedlaeth ifanc, yn bwysig iawn mewn prosiectau adeiladu o’r fath. Yn ogystal ag adeiladu cartrefi a chefnogi cymunedau, rydyn ni’n awyddus i ddangos y diwydiant a’r mathau o swyddi sydd ar gael. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenhedlaeth newydd i gael gyrfa ym maes tai a dangos y gallan nhw wneud hyn mewn pob math o swyddi, yng ngogledd Cymru.”

Meddai Penelope Storr, Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn: “Roedden ni wrth ein bodd i weld y bobl ifanc yn mwynhau dysgu am yrfaoedd ym maes adeiladu a STEM. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r gymuned wrth i’r gwaith ym Maes Deudraeth fynd rhagddo. Bydd y datblygiad newydd hwn yn darparu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel, gan gyfrannu at fywiogrwydd yr ardal a chynnig cyfleoedd newydd i deuluoedd lleol.”

Mae’r datblygiad ym Mhenrhyndeudraeth yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, ClwydAlyn a Grŵp Cynefin, ac yn rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org

07970 142 305