Skip to content

Mae CwydAlyn, yn falch iawn o gyhoeddi bod ei fflat arddangos yn cael ei ddadorchuddio yn Neuadd Maldwyn, yn y Trallwng, cynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn. Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II neo-Sioraidd, sydd wedi cael ei drosi’n ofalus gan gadw cyfoeth o’i nodweddion gwreiddiol.

Mae lefel y diddordeb gan breswylwyr posibl wedi bod yn drawiadol iawn, gyda mwy na 100 mynegiant diddordeb wedi eu cofrestru yn barod yn y cynllun.

Gwahoddwyd pobl sydd wedi llenwi ffurflen gais yn llwyddiannus, neu sydd wedi dynodi eu dymuniad i fod yn rhan o’r gymuned ffyniannus hon trwy fynegi diddordeb, i weld y fflat arddangos yn gyntaf, gan ddechrau o’r 2 Hydref. Gan alluogi ClwydAlyn i ddarparu profiad wedi ei deilwrio i bob ymwelydd a rhoi amser iddyn nhw ofyn cwestiynau. Erbyn hyn mae’r fflat arddangos ar agor i eraill a fyddai’n hoffi ystyried Neuadd Maldwyn yn gartref. Gallant archebu apwyntiad i weld y fflat arddangos trwy ffonio 0800 183 575.

“Rydym eisoes wedi cael ymateb gwych a llawer o ddiddordeb yn y fflatiau newydd. Mae’r cyfle i weld y fflat arddangos yn ffordd wych o gael gwybod os byddai un o’r fflatiau yma yn ddewis delfrydol i chi neu aelod o’ch teulu,”
Lisa Johnson
Pennaeth Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth
“Dyluniwyd y cynllun yn benodol i bobl ag amrywiaeth eang o anghenion o ran cefnogaeth allu byw yn annibynnol a mwynhau bywyd da, boed arnynt angen ychydig o help ychwanegol neu bod ganddynt angen gofal cartref mwy cymhleth,”
Lisa Johnson
Pennaeth Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth

Mae’r cynllun byw’n annibynnol sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn cynnwys 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel, i bobl 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle a gerddi wedi eu tirlunio. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu’r rhai sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys.

Mae Neuadd Maldwyn yn cael ei adeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Llywodraeth Cymru.

Os hoffech gael gwybod rhagor am Neuadd Maldwyn neu i gofrestru eich diddordeb, ewch i: Neuadd Maldwyn – ClwydAlyn neu ffoniwch 0800 183 5757