Dyddiad cwblhau arfaethedig: Haf 2025
Datblygiad 29 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni (bydd 26 o’r tai yn cael eu rheoli gan ClwydAlyn a 3 o’r tai yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn), yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2 a 3 ystafell wely a byngalo 3 ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.
Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
Mae 29 o gartrefi ar y safle
- 16 x Cartref 2 Ystafell Wely
- 12 x Cartref 3 Ystafell Wel
- 1 x Byngalo Cadair Olwyn 3 Ystafell Wely
Tre Angharad, Bodedern




