Skip to content
5 Cartrefi
Rhoslan, Ynys Môn
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Hydref 2024

Mae Rhoslan yn ddatblygiad o 5 o gartrefi ynni-effeithlon. Yr adeiladwyr yw DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynwys tai dwy a phedair ystafell wely. Mae’r holl gartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes ac maent wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion y preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Batris storio trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 5 o gartrefi ar y safle

  • 2 x 4 ystafell wely ar gyfer 6 o bobl
  • 3 x 2 ystafell wely ar gyfer 4 o bobl

 

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ym Cae Bothan, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan