Skip to content
63 Cartrefi
Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1PB
Cwblhawyd

Cwblhau: Haf 2023

Yn cael ei ystyried yn un o’r datblygiadau mwyaf blaengar eto, mae Glasdir yn ddatblygiad sy’n cynnwys 63 o gartrefi effeithlon o ran ynni. Fe’u hadeiladwyd gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru; gydag arian yn rhannol trwy’r Rhaglen Tai Arloesol.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau, tai pâr a thai unigol yn ogystal â byngalos wedi eu haddasu. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ymestyn ffiniau a defnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw.

Mae 63 o gartrefi ar y safle

  • 2 x Fyngalo 2 Ystafell Wely wedi eu Haddasu
  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 4 x Byngalo 2 Ystafell Wely
  • 4 x Tŷ Unigol 3 Ystafell Wely
  • 20 x Tŷ Pâr 2 Ystafell Wely
  • 21 x Tŷ Pâr 3 Ystafell Wely
  • 4 x Tŷ Pâr 4 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Hydref 2023
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2023
Darllenwch gylchlythyr
Haf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Glasdir:

Glasdir semi-detached property in Ruthin
Gweinidog yn ymweld â datblygiad tai newydd yn Rhuthun
Ddydd Mawrth 18 Ebrill ymwelodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths â cham diweddaraf y datblygiad 63 cartref yn Rhuthun.
Darllenwch fwy
Resdients moving into their new property, Glasdir, Ruthin
Tenantiaid yn symud i’w cartrefi newydd yn Sir Ddinbych
Yn yr hyn sy'n cael ei ystyried yn un o ddatblygiadau mwyaf blaengar ClwydAlyn, mae cyfanswm o 63 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu ar safle Glasdir, ac mae cyfanswm o 18 o gartrefi yn barod i bobl symud iddynt.
Darllenwch fwy
Plumber & Electrician stepping out of a ClwydAlyn van
Cymdeithas Dai o Ogledd Cymru ar restr-fer am wobr genedlaethol.
Yn ddiweddar rhoddwyd ClwydAlyn ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr am ei ddatblygiadau blaengar a'i ymrwymiad i ansawdd yr adeiladu a thai gwell i'r amgylchedd yng Ngogledd Cymru.
Darllenwch fwy
Glasdir, Ruthin football kit sponsorship
Datblygwyr yn noddi dillad pêl-droed i Dîm Ieuenctid Rhuthun
Mae’r datblygwyr sy’n adeiladu cartrefi newydd ar safle Glasdir yn Rhuthun, yn rhoi yn ôl i’r gymuned leol trwy noddi dillad pêl-droed i bobl ifanc sy’n chwarae i Dîm Ieuenctid Rhuthun.
Darllenwch fwy

Fideos

Glasdir 2023
Ymweliad George Clarke
Glasdir homes

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Glasdir, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ddinbych. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan