Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gaeaf 2025
Datblygiad 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely hunangynhwysol o safon uchel, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Mae Neuadd Maldwyn yn cael ei adeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Llywodraeth Cymru.
Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i defnyddiwyd gan Gyngor Sir Powys hyd 2021 a chyn hynny roedd yn brif swyddfa i Gyngor Dosbarth a Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio yn ôl i ddechrau’r 20fed ganrif a bydd ei addasu yn fflatiau yn cael ei gyflawni mewn modd llawn cydymdeimlad gan gadw ei gyfoeth o nodweddion gwreiddiol.
Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys.
Am ragor o wybodaeth ewch i: clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn
Mae’r safle yn cynnwys: 66 o gartrefi
- 52 x Fflat 1 Ystafell Wely
- 14 x Fflat 2 Ystafell Wely