Mae Mynydd Isa yn ddatblygiad o 56 o gartrefi ynni-effeithlon. Yr adeiladwyr yw Castle Green ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.
Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi un, dwy, a thair ystafell wely, yn amrywio o fynaglos, fflatiau, tai pâr a thai ar wahân yn ogystal â byngalo wedi’i addasu.
Mae’r holl cartrefi yn cael eu hadeiladu a’u dylunio i fod yn gartrefi am oes, sy’n golygu bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i ofynion y preswylwyr newid dros amser, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Mae’r cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd y tu hwnt i’r safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru
Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai ynni-effeithiol eu cael ar iechyd a lles pobl. Mae’r cartrefi newydd hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, felly maent yn hynod o ynni-effeithiol ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan.
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
- Defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan leihau maint yr ôl troed carbon.
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd, arbed ynni gwerthfawr ac o bosibl arbed ynni yn y tymor hir hefyd.
Mae 56 o gartrefi ar y safle
- 4 x Fflat 1 Ystafell Wely
- 2 x Byngalo 2 Ystafell Wely
- 24 x Cartref 2 Ystafell Wely
- 25 x Cartref 3 Ystafell Wely
- 1 x byngalo 3 ystafell Wely