Cwblhau: Hydref 2025
Mae’r datblygiad ym Modelwyddan yn cynnwys 33 o gartref ynni-effeithlon. Mae’r prosiect cyffredinol yn werth £8.25m a bydd y cam cyntaf hwn yn darparu 33 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, ar ffurf 17 tŷ ac 16 o fflatiau.
Mae safle’r 33 o gartrefi ar Ffordd Rhuddlan yn rhan o uwchgynllun mwy ar gyfer cyfanswm o 108 cartref newydd sydd wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor. Mewn partneriaeth â K & C Construction, bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu i safon uchel fel cartrefi am oes, sy’n golygu bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i ofynion y preswylwyr newid dros amser, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Mae’r cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd y tu hwnt i’r safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai ynni-effeithiol eu cael ar iechyd a lles pobl. Mae’r cartrefi newydd hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, felly maent yn hynod o ynni-effeithiol ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli trydan solar
- Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan.
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
- Defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan leihau maint yr ôl troed carbon.
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd, arbed ynni gwerthfawr ac o bosibl arbed ynni yn y tymor hir hefyd.
Mae 33 o gartrefi ar y safle
- 4 x Fflat 1 Ystafell Wely
- 12 x Fflat 2 Ystafell Wely
- 3 x Cartref 2 Ystafell Wely
- 14 x Cartref 3 Ystafell Wely