Cwblhau: Hydref 2023
Mae hwn yn ddatblygiad £9.6 miliwn o 60 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy. Yn cael eu hadeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
Roedd y safle 4.2 erw yn rhan o gampws y coleg yn y gorffennol, ac mae wedi ei drawsnewid yn gymysgedd o gartrefi yn cynnwys 44 o dai dwy a thair ystafell wely ac 16 o fflatiau dwy ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.
Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
Mae 60 o gartrefi ar y safle
- 16 x Fflat 2 Ystafell Wely
- 18 x Tŷ Pâr 2 Ystafell Wely
- 14 x Tŷ Pâr 3 Ystafell Wely
- 7 x Tŷ Teras 2 Ystafell Wely
- 5 x Tŷ Teras 3 Ystafell Wely
Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai






Newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai:

