Mae’r datblygwyr sy’n adeiladu cartrefi newydd ar safle Glasdir yn Rhuthun, yn rhoi yn ôl i’r gymuned leol trwy noddi dillad pêl-droed i bobl ifanc sy’n chwarae i Dîm Ieuenctid Rhuthun.
Mae Williams Homes, y contractwr sy’n adeiladu 63 o dai fforddiadwy newydd ar safle ar ran cymdeithas tai ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn rhoi’r nawdd fel rhan o ymrwymiad y ddau sefydliad i sicrhau bod y datblygiad yn creu cymaint o fudd ag sy’n bosibl i’r gymuned leol.
Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn: “Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’n cynlluniau yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddynt mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, o greu gwaith lleol i gefnogi mentrau lleol. Rydym yn falch iawn bod Williams Homes wedi rhoi nawdd i dîm pêl-droed ieuenctid Rhuthun fel rhan o’n gwaith yn yr ardal, ac rydym yn dymuno pob lwc i’r tîm yn y tymor sydd i ddod.”
Mae cynllun Glasdir yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 trwy fuddsoddiad o £250 miliwn, gan ddod â chyfanswm y tai y mae’r gymdeithas dai yn berchen arnynt ac yn eu rheoli i dros 7,500.