Croesawyd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, i ddatblygiad tai newydd ym Maes Deudraeth, Penrhyndeudraeth, yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr ymweliad swyddogol â’r cartrefi ym Mhenrhyndeudraeth yn nodi lansiad Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren Llywodraeth Cymru.
Roedd cynrychiolwyr ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ynghyd â’r contractwr Williams Homes ar y safle i’w gyfarfod. Cafodd Mr Irranca-Davies ei dywys o amgylch y datblygiad newydd, sy’n cynnwys 41 o dai a fflatiau effeithlon o ran ynni, sydd wedi’u hadeiladu o fframiau pren.
Defnyddiwyd dulliau adeiladu modern i godi’r holl gartrefi ym Maes Deudraeth; mae hyn yn cynnwys fframiau pren o Gymru. Mae’r ymweliad yn gyfle i amlygu pwysigrwydd y diwydiannau coedwigaeth a phren yng Nghymru. Wrth lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren Llywodraeth Cymru, y nod yw hybu’r defnydd o bren o Gymru yn y sector adeiladu.
“Trwy weithio gyda’r diwydiant, gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o greu a gwerthu cynhyrchion coedwig o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy, sy’n cael eu rheoli mewn ffordd gyfrifol.”
“Trwy weithio gyda Grŵp Cynefin ar y cynllun hwn, rydyn ni’n creu cymuned gynaliadwy sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw’r ardal arbennig hon ac yn cwrdd ag anghenion pobl a theuluoedd lleol.”
“Mae sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn cael eu hadeiladu o ddeunyddiau sydd i’w cael yn lleol, fel pren Cymreig, nid yn unig yn cefnogi economi Cymru mae hefyd yn cryfhau ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, arloesedd a thwf yn y tymor hir yng Ngwynedd.”
Mae Williams Homes (Y Bala) yn adeiladu’r cartrefi hyn ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd sy’n ceisio cyflawni nod y Cyngor o adeiladu 700 o dai cymdeithasol ar hyd a lled y sir yn ystod oes ei Gynllun Gweithredu Tai.
I gael rhagor o fanylion am y cartrefi, ewch i: Canol Cae, Penrhyndeudraeth – Clwydalyn
I roi eich barn ar Strategaeth Ddiwydiannol Pren Llywodraeth Cymru, ewch i: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd Cymru ar gyfer pren | LLYW.CYMRU