Ar 2 Rhagfyr, symudodd 13 o deuluoedd i mewn i’w cartrefi newydd ar Stryd Edward Henry yng ngorllewin y Rhyl. Mae’r cartrefi hyn gan ClwydAlyn nid yn unig yn garreg filltir o ran adfywio cymunedol a byw’n gynaliadwy, ond hefyd o ran dyfodol y teuluoedd wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.
Mae’r 13 cartref tair ystafell wely newydd, ar arddull tŷ tref tri-llawr, yn ganlyniad partneriaeth rhwng ClwydAlyn, prif ddarparwr tai cymdeithasol Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a chwmni NWPS Construction Ltd.
Mae’r prosiect nodedig yn cynnig datrysiadau tai modern ac yn arwain y ffordd ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd a chynhwysol wrth i’r cartrefi newydd gymryd lle’r hen stoc tai a oedd yn anaddas i’w hadnewyddu. Mae’r datblygiad yn rhan o Gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ailddatblygu gorllewin y Rhyl.
Roedd teimlad o obaith ac optimistiaeth wrth i’r teuluoedd cyntaf ymgartrefu yn eu cartrefi newydd. Mae’r cynllun wedi cynnig llety fforddiadwy i deuluoedd y mae dirfawr ei angen yn y Rhyl.
Cafodd rhanddeiliaid allweddol eu gwahodd i ymweld â’r cartrefi arloesol ddydd Mercher, 27 Tachwedd, ac roedd y sylw i fanylion a’r pwyslais ar ddylunio cynaliadwy wedi gwneud argraff ddofn arnynt.
“Bydd y bobl sy’n symud i mewn i’r cartrefi yn cael cyfle i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau, gan fyw mewn adeilad o ansawdd uchel. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd ac iechyd iddynt ar eu taith ddiweddaraf.”
“Rwy’n falch o weld bod cyfleusterau gwefru cerbydau trydan yng nghefn yr adeiladau, yn ogystal â mannau parcio.
“Hoffwn ddymuno’r gorau i’r preswylwyr wrth iddynt ymgartrefu yn eu cartrefi newydd, a dymuno pob hwyl iddynt ar gyfer y dyfodol.”
Mae pump o’r cartrefi yn yr ardal gadwraeth. Mae’r ffasadau wedi’u dylunio a’u hadeiladu i efelychu’r tai tref gwreiddiol ar Stryd Edward Henry yn 1929, pan fu’r arlunydd trefol enwog LS Lowry yma yn creu brasluniau. Mae’r cartrefi hyn yn cynnig safon byw uchel a modern, tra’n gwarchod treftadaeth ac arddull bensaernïol gyfoethog yr ardal.
Dyluniwyd yr holl eiddo ffrâm bren newydd fel ‘cartrefi am oes’, gan olygu y bydd modd eu haddasu i anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, ac mae pob un yn cynnwys ystafelloedd gwlyb hygyrch. Yn ogystal â hyn, mae gan yr 13 cartref bympiau gwres ffynhonnell aer, paneli trydan solar, a lefelau ynysiad uchel ynghyd â chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Mae’r nodweddion hyn yn golygu bod y cartrefi yn ddarbodus i’w rhedeg ac maent yn cyd-fynd â chenhadaeth ClwydAlyn i drechu tlodi tanwydd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
“Mae’r cynllun unigryw hwn yn hollol wahanol i’n datblygiadau blaenorol, ac rydym yn hynod o falch o’r hyn a gyflawnwyd yma yn y Rhyl.”
Datgelodd ClwydAlyn fod y broses adeiladu wedi defnyddio contractwyr lleol a defnyddiau cynaliadwy a gyrchwyd yn lleol lle bo’n bosibl. At hyn, mae’r cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn rhagori ar safonau rheoleiddo presennol Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Safon Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.